Tudalen:Gwaith John Davies CyK.pdf/2

Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

WEDI bywyd byrr Ann Griffiths a Thomas Griffiths, dyma ni'n dod at ddau o'u cymdeithion gafodd oes hirfaith i weithio dros yr Iesu fuont yn gyd-ganmol yn seiadau Pont Robert,—John Davies a John Hughes.

Ganwyd John Davies, Gor. 11, 1772, mewn ty ar fferm Pendugwm, Llanfihangel yng Ngwynfa. Gwehydd oedd ei dad. Cafodd dri mis o ysgol, a daeth yn un o ysgolfeistri Charles o'r Bala. Bu yn athraw yn Llanrhaiadr, ym Machynlleth, ac yn Llanwyddelan. Dechreuodd yr yspryd cenhadol gymeryd meddiant ohono wrth ddarllen hanes y Morafiaid yn Greenland a Thomas a Carey yn yr India. Ysgrifennodd o Fachynlleth at Mr. Charles i gynnyg ei hun yn genhadwr. Wedi hir a hwyr cafodd wahoddiad gan Gymdeithas Genhadol Llundain i fynd i ynysoedd Mor y De; hwyliodd Mai 6, 1800; cyrhaeddodd Tahiti Gor. 10, 1801.

Daliodd i ohebu â theulu Dolwar am ychydig, ac â John Hughes drwy ystod eu hoes hir. Gweithiodd yn galed am flynyddoedd, yn wyneb anhawsterau mawrion a phrofedigaethau dwys. Ond torrodd y wawr o'r diwedd. Ym Mai 1821 ysgrifenna at John Hughes am drefn ei eglwysi blodeuog, a dywed fod ganddo ormod o waith i feddwl am ddod adre. Tra'r oedd John Hughes yn helpu i ffurfio Cyffes Ffydd y Methodistiaid, yr oedd John Davies yn cyfieithu Efengyl Ioan ac