Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVIII. CYDLAFURWYR.

Dechreuais deimlo yr anfantais o fod heb addysg briodol, a phenderfynais wneyd y diffyg i fyny, hyd y gallwn, drwy gwbl ymroddiad. Nid oedd gennyf lawer o lyfrau, ac nid oedd y rhai oedd gennyf, o'r dosbarth uchaf; ond gwnaethum y goreu o honynt oll. Gwyddwn bopeth oedd ym mhob un ohonynt. Treuliais lawer wythnos gyfan heb fyned fawr ddim allan o'r tŷ. Trafferthwn i gasglu y pethau goreu a allwn gael i'm pregethau, ac i'w gosod allan yn y modd gore. Ysgrifennwn hwy yn ofalus, a chan nad oedd angen, fel rheol, ond am un bregeth bob pythefnos, byddai gennyf gyflawnder o amser atynt. Treuliais felly yn lled lwyr y pedair blynedd cyntaf; ond teimlwn yr anfantais o fod heb neb i ymgynghori ag ef, a chael cyfarwyddyd ganddo. Cyfarfyddwn yn aml â gweinidogion y sir mewn cyfarfodydd, yr hyn a brofodd i ini yn lles mawr, Deuent hwy ataf fi, ac elwn iunau atynt hwythau. Mr. David Davies, Pant Teg, oedd un o weinidogion hynaf y sir oedd yn cymeryd rhan amlwg yn achosion yr enwad. Nid oedd yntau ychwaith yn hen, gan nad cedd ond ychydig dros hanner cant oed, ond yr oedd wedi ei urddo yn ieuanc, a phawb yn edrych arno fel henafgwr. Yr oedd yn ddyn synwyrol a deallgar, yn cael ei ystyried yn dduwinydd craff; er na ddeallais erioed ei fod yn nodedig o graff ychwaith. Ond yr oedd wedi cymeryd rhan amlwg yn dadleuon yn nghylch y "System Newydd", ac ysgrifenasai ar "Sefyllfa Prawf," a chyhoeddasai bregeth dda iawn ar "Athrawiaeth lachus." Yr oedd yn fedrus iawn i ddweyd ei feddwl yn eglur, a'i ddweyd ar