Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

buasai efe, fel llawer o bregethwyr yr oes honno, fyw yn llawer hwy pe buasai yn gadael heibio yfed brandy. Credent hwy ei fod yn help iddynt, ond yn lle hynny eu niweidio yn fawr yr oedd. Safodd yntau draw oddiwrth ddirwest, ac yr oedd yn gryf yn ei herbyn. Y noson honno, yn Aberhenllan, gofynnai i mi a oeddwn yn adnabod Owen Thomas, Bangor. Atebais fy mod. Yna dechreuodd ei drin, a'i fod wedi dweyd pan ar ei daith ddirwestol, mai tair colofn meddwdod yn sir Gaerfyrddin oedd Breese Caerfyrddin, Davies Pant Teg, ac Evans Llwynffortun. Gwyddwn nad oedd erioed wedi dweyd y fath beth; ond nid aethum i ddadleu ag ef, ac felly aeth y peth heibio. Mae yn ddiau fod rhywun wedi dweyd hynny wrtho ef. Dyn caredig iawn oedd Mr. Breese, un o'r rhai parotaf i wneyd cymwynas, a ffyddlon iawn i'r rhai y cyfierai atynt. Pregethwr dwfn, tywyll, geiriog, cadwynog ei frawddegau ydoedd, ond yn fywiog a gwresog ei draddodiad, ac wedi cael y gair o fod yn bregethwr mawr, ac oblegid hynny yn hynod o boblogaidd. Pan y pregethai yn ymarferol byddai yn nerthol iawn, yr hyn a wnai fynychaf ar nos Sabbothau. Yr oedd ynddo, yn ddiau, allu mawr fel pregethwr, ond iddo yn fore syrthio i mewn ag arddull dywyll a niwliog, a gamenwid yn fawredd.

Mr. David Hughes, Trelech, oedd un o'm cymydogion agosaf, gan ei fod yn gweinidogaethu yn Blaen y Coed yn ogystal a Threlech. Yr oedd ef wedi dyfod i'r wlad fwy a thair blynedd o'm blaen, o Casnewydd, lle y treuliasai un mlynedd ar ddeg. Pregethwr o ddosbarth Mr. Breese ydoedd, ond fod ei bregethau o ran eu