Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwyadl am dair blynedd ar ddeg. Priododd wraig weddw gyfoethog, i'r hon yr oedd nifer o feibion; ac er iddo gael cartref cysurus nid oedd fawr gydymdeimlad rhyngddi hi a'r weinidogaeth. Bu hi farw yn dra sydyn yn 1850, ac yn y brofedigaeth hudwyd ef i yfed er anghofio ei ofid, ac yn ei feddalwch cydsyniodd. O'r dydd hwnnw allan collodd ei fawr nerth. Cafodd lawer o drallodion; cododd mab i'w wraig mewn gwrthryfel i'w erbyn i fyned a'r eiddo oddiarno: syrthiodd yntau i ddwylaw drwg, y rhai a'i hysbeiliasant o'r cwbl a feddai, ac yn nhŷ un o'r cyfryw yng Nghaerfyrddin y bu farw. Bum yn ymweled ag ef yno, a threuliais awr gydag ef. Drwg iawn gennyf ei weled fel Samson wedi ei amddifadu o'i ddau lygad. Yr oedd yn ddioddefydd mawr ar y pryd oddiwrth y dyfrglwyf, ac felly y parhaodd hyd ei farwolaeth. Un o'r cyfeillion ffyddlonaf a welais yn fy oes ydoedd; ac ni welais yn ystod yr holl flynyddoedd y buom yn cydweithio ddim yn anheilwng ynddo. Ac er fy mod yn mhell o'i esgusodi am yr hyn a wnaeth i'w arwain i'r fath ddiwedd cymylog, eto pan gofiwyf ei dymer naturiol, a'i feddalwch, a'r holl helbulon a'i cyfarfyddodd, yr wyf yn gorfod teimlo ei fod yn wrthrych i dosturio wrtho yn llawn cymaint ac i'w feio. Mr. David Evans, Pen y Graig, a safai yn cymeradwy fel pregethwr yn y sir y pryd hwnnw. Yr oedd wedi bod ryw saith mlynedd yn y weinidogaeth cyn fy urddo. Gweinidog egniol a llwyddiannus ydoedd. Ymosodai gyda phenderfyniad ar arferion llygredig y wlad, a gwnaeth lawer i'w rhoi i lawr. Yr oedd yn bregethwr pur effeithiol, er nad oedd yn fawr nac yn gryf. Nid