Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. FY HYNAFIAID.

Nid oes dim yn fwy gweddus nag i mi ddechreu gyda fy hynafiaid.

Yr oedd fy hynafiaid o ochr fy nhad o blwyf Llanddeiniolen, yn sir Gaernarfon, ac yr wyf yn gallu eu dilyn yn ol ddeg o genedlaethau ; ond y mae y cyfenw yn newid, ac yn myned yn ol yr enw, yn ol arfer gyffredin yr hen Gymry. Yn 1406 ganwyd un Owen Thomas. Yn 1446 ganwyd i'r Owen Thomas hwnnw fab, yr hwn a alwyd yn William Thomas. Yn 1472 ganwyd iddo yntau fab; yr hwn a alwyd yn Thomas Williams, yn ol enw cyntaf ei dad. Yn 1526 ganwyd iddo yntau fab, yr hwn a alwyd yn William Thomas, yn ol enw ei dad yntau. Yn 1552 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn Thomas Williams. Yo 1583 ganwyd mab iddo yntau, yr hwn a alwyd yn Owen Thomas. Yn 1617 ganwyd i Owen Thomas fab, yr hwn a alwyd yn Ellis Owen. Yn 1672 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn Thomas Ellis. Yn 1711 ganwyd iddo yntau fab, a alwyd yn Owen Thomas. Yn 1751 ganwyd iddo yntau fab, a galwyd ef yn ol enw ei dad yn Owen Thomas. Hwnnw oedd fy nhaid. Priododd et a Grace, merch y Rhydau, Llanddeiniolen, a ganwyd iddo o honi saith o feibion, y rhai oll a dyfasant i oedran gwyr. Eu henwau oeddynt John, Thomas, William, Robert, Owen, Rowland, a Harry. Y pumed oedd fy nhad, Owen Thomas, yr hwn a anwyd yn 1785. Mae gennyf gof plentyn am fy nhaid yn ein tŷ ni yn Nghaergybi, ac y mae yr argraff ar fy meddwl mai hen wr mawr esgyrniog ydoedd. Gwelais fy ewyrthod oll ond yr hynaf, fy ewyrth John, yr hwn oedd yn byw yn Llangoed,