Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r blaen, gan wasgu fy mhen a gwneyd swn llefog. Gwylltiodd mewn munud, a bygythiai fy nharo â'r pren troed oedd yn ei law, tra y chwarddai pawb yn y lle. Wedi gweled fod hynny yn cymeryd, a'i fod yntau yn gwylltio, gwnawn yr un peth yn fynych; ac yr oedd wedi myned o'r diwedd nad oedd raid i mi wneyd dim ond rhoddi fy nwylaw am fy mhen nad elai yn benwan mewn natur ddrwg. Methwyd a chael ganddo areithio ar ol hynny rhag i mi wneyd difyrrwch o hono. Yr hen greadur, yr oedd llawer o ddaioni ynddo, ac er iddo weled llawer o dreigliadau, a newid ei enwad, glynodd gyda chrefydd hyd ei ddiwedd. Byrr oedd ei dalent a bychan oedd ei wybodaeth, ond yr oedd ei sel yn fawr, yr hon a ddygai mewn peth da yn wastadol. Nid oedd dim o dalent ei fam, na'i ewythr Pedr Fardd, na'i frawd Nicander ynddo, ond nid oedd yn ol i'r un o honynt mewn daioni.

Yn y blynyddoedd hynny gwrandewais lawer iawn o bregethwyr—prif bregethwyr y Methodistiaid yn y cyfnod hwnnw. John Jones Treffynnon a Dafydd Cadwaladr yw y ddau y mae yn rhaid i mi fyned bellaf yn ol er mwyn eu cofio, ond y mae gennyf gof clir am danynt, yn enwedig am yr olaf. John Elias a John Jones, Talysarn, o bregethwyr y wlad, a glywais amlaf. Clywais hwy ddegau, os nad ugeiniau o weithiau, ac ni chaent ddod i unlle o fewn pum milldir i Fangor na fynnwn i ac amryw eraill fyned ar eu hol. Ychydig o weithiau y clywais Henry Rees, oblegid anaml y devai i'r wlad; ond pan y deuai byddai tynnu mawr ar ei ol. Unwaith y clywais John