Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd hynny yn beth pur gyffredin yn y dyddiau hynny, oblegid nid oedd llyfrau hymnau ar y pulpudau. Y pennill oedd,—

"Na thwyller neb gan bechod cas,
Byth ni watworir Duwe pob gras;
Beth bynnag hauo dyn yn awr
A fêd yn y bythol-fyd mawr."

Lled ddiawen a dieneiniad, ond canwyd ef gyda hwyl. Pan gafwyd y capel yn barod yr oedd yno rai am gael clustog felfed ar astell y pulpud o dan y Beibl; ond codai eraill gri mawr yn erbyn hynny. Haerid mai balchder oedd, a'i fod yn halogi y cysegr. Yr oedd teimlad cryf yng ngweithdy Dafydd Llwyd yn erbyn y glustog: ac er mwyn dangos yr anghymeradwyaeth hwnnw cytunwyd fod i mi ddysgu y drydedd bennod ar ddeg o Ezeciel, lle y cyhoeddir gwae uwch ben y "gwniedyddesau clustogau o dan benelinoedd fy mbobl," i'w hadrodd yn y capel y Sabboth cyntaf wedi dwyn y glustog iddo. Felly dysgais hi, ac adroddais hi, ac am wn i mai dyna yr unig beth a wnaethum wrth fodd calon Eben Morris, ac yr oedd Shon Dafydd hefyd yn fy nghanmol yn fawr, ac eraill o'r ysgol honno; ond gwelais hefyd fod eraill wedi brochi yn ddirfawr.

Ystormus iawn oedd ystad pethau yn yr Eglwys Fethodistaidd ym Mangor yn y cyfnod hwn. Cwerylon personol oedd y cwbl, ond yr oedd cryn nifer o deuluoedd wedi eu tynnu iddynt, a'r holl eglwys ar y naill ochr neu y llall. Yr oedd yn hen gweryl er dyddiau yr hyn a elwid y "Llythyr Crwn"; ac er symud llawer ymaith yr oedd drwg yn aros. Yr oedd teimladau yn rhedeg yn uchel. Cyfansoddai y pleidiau gerddi isel i ddirmygu a goganu eu gilydd, a lledaenid y cyfryw,