Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethu ar Ddirwest. Yr wyf yn cofio mai testyn David Humphreys oedd,—"Os o ddynion y mae y cyngor hwn, neu y weithred hon, efe a ddiddymir, ond os o Dduw y mae ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw." Dydd Llun, yr oedd yr holl gymdeithasau o Drefriw i'r Roe wedi dyfod ynghyd, ac amryw o Lanrwst, Cefais ddeuddeg swllt am fy llafur, a dyna y tal uchaf a gawswn erioed; a theimlwn fy mod wedi gwneyd yn ardderchog, oblegid ni bu erioed cyn hynny gymaint yn fy llogell.

Y dyddiau dilynol yr oedd Cymdeithasfa y Methodistiaid yn Llanrwst, nid Cymanfa Chwarterol, ond math o gymanfa flynyddol, y fath a gynhelid mewn amryw leoedd. Nid wyf yn cofio fawr iawn am y gymanfa. Rhoddwyd fi i letya yn nhy un Mr. Jones, lle pur gyfrifol. Yr oedd Richard Jones, Bala, a Richard Edwards, Llangollen, a Griffith Jones, Tre Garth, yn lletya yn yr un ty. Rhoddwyd Griffith Jones a minnau i gysgu yn yr un gwely, mewn goruwch-ystafell fawr, lle hefyd yr oedd gwely arall, yn yr hwn y gorweddai tri o fechgyn y tŷ,—rhyw las-lanciau, o 13 hyd 18—y rhai oeddynt yn bur gydnabyddus â Griffith Jones, a rhoddai ei ffraethder lawer iawn o ddifyrrwch iddynt. Yr oedd John Elias yno yn pregethu yn un o oedfaon y Gymanfa, am ddeg yr wyf yn meddwl. Pregethai yn y ffenestr, er oered yr hin, ac yr oedd cynifer allan ag oedd i fewn. Nid wyf yn cofio ei destyn, na dim a ddywedodd, ond pregethai a'i gob uchaf-cob hirllaes--wedi ei botymu yn dynn am dano; ac y mae ei holl osgo a'i symudiadau ar astell y ffenestr yn fyw iawn ar fy meddwl, er nad wyf yn cofio y testyn na'r bregeth.