Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dydd Sadwrn, yr oedd Gwyl Ddirwestol yn Betws y Coed, a chan fod amryw yn myned o'r Gymanfa yno aethum innau gyda hwy. Ymysg eraill yr oedd Richard Humphreys Dyffryn a John Roberts Capel Garmon. Y rheswm fy mod yn cofio mor glir am danynt hwy ydyw fod y ddau yn eistedd wrth fy nghefn yn y pulpud yn y cyfarfod nos Sadwrn, ac mae yn debyg fy mod yn areithio yn lled ffraeth a siaradus, ac mi glywn Richard Humphreys yn gofyn i John Roberts, "Pwy ydi'r stripling hwn, deudwch?" Ond nid oedd gan hwnnw yr un ateb i'w roddi, oblegid yr oeddwn yr un mor ddieithr i'r naill ag i'r llall. Y noson hono gwahoddwyd fi i Cwmlanerch i letya, lle yr oedd un Mr. Lloyd yn byw, gwr hynaws a boneddigaidd iawn. Yr oedd Mr. Richard Humphreys yno hefyd, a chefais yr anrhydedd o gysgu gydag ef. Bu Mr. Lloyd a Mr. Humphreys yn nodedig o garedig i mi. Mr. Lloyd oedd y cyntaf erioed a ofynodd i mi a oedd dim awydd pregethu arnaf, ac er fy mod yn llawn awydd, eto ni ddywedais hynny yn bendant wrth neb, ond cymhellodd ef a Mr. Richard Humphreys fi yn garedig i feddwl am hynny. Y bore Sul hwnnw yr oedd rhywun gyda Mr. Humphreys yn Betws y Coed. Yr oedd ef yn myned erbyn dau o'r gloch i Gapel Curig, ac aethum gydag ef, ac yr oedd dau neu dri eraill yn cydfyned, oll ar ein traed. Ar y ffordd, dywedodd Mr. Humphreys wrthyf y byddai raid i mi ddechreu yr oedfa iddo yng Nghapel Curig y prydnawn. Ond gan ei bod yn ddiweddar pan gyrhaeddasom, yr oedd Richard Jones Dolyddelen, brawd John Jones, Talysarn, yn gweddio pan aethom i'r lle, Yr oedd Mr,