Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Undeb Sirol a elwid y Connexion, a ffurfiwyd rheolau lled fanwl a chaeth iddo, rhy gaeth yn ddiau i Anibyniaeth, a mynnai Caledfryn a'i blaid eu cario allan i'r llythyren, ond ni fynnai Dr. Arthur Jones ymostwng iddynt. Ymyrrid a'i ddull ef o gario yr achos ymlaen, ac oblegid nad oedd yn gweithredu ym mhob peth fel y gweithredai mwyafrif yr eglwysi Anibynnol, cyhoeddwyd nad oedd yn Anibynnwr, na'i eglwys yn eglwys Anibynnol; pan mewn gwirionedd na bu erioed weinidog ac eglwys mwy Anibynnol; yn wir, rhy Anibynnol oeddynt. Ymyrrid a'i ddull o dderbyn aelodau a chodi pregethwyr. Gwnaed rhywbeth pur debyg i ysgymundod arno ef a'i bobl o gyfundeb eglwysi sir Gaernarfon, o leiaf, felly yr edrychai ef ar y peth. Yn sicr, ni bu yn yr enwad weinidog mwy gormesol na'r hyn oedd Caledfryn yn y cyfnod hwnnw. Cariai y cwbl ymlaen â llaw gref, a phan gofir nad ydoedd ond dyn o dan ddeugain oed y mae yn syndod pa fodd y goddefid y fath drahausder ynddo. Ond dynion ieuangach a gwannach nag ef oedd y rhan fwyaf o'i gefnogwyr, ac am yr ychydig nifer oedd yn hynach nag ef, yr oedd yn well ganddynt adael iddo na myned i ymryson ag ef. Yn yr ystad yma ar bethau, edrychid ar bawb o Fangor yn wrthodedig, ac ni dderbynnid hwy ond i ychydig o eglwysi. Yr oeddwn wedi deall, yn bennaf trwy Ieuan Gwynedd, pa fodd yr oedd pethau yn sefyll, ac yn gwybod hefyd fod teimlad mwyafrif y gweinidogion y tuallan i sir Gaernarfon yn ffafr Dr. Arthur Jones. Nis gallaswn i help o'm cysylltiad ag eglwys Bangor, a theimlwn fod yn arw os oedd yn rhaid i mi ddioddef oblegid