Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddi ar ddeall i mi fod hynny yn fy erbyn. Nid oedd Mr. Ambrose wedi fy ngwahodd i bregethu ym Mhorthmadog, er fy mod wedi galw amryw o weithiau yn ei dŷ, a'i gael yn hollol garedig. Yn gynnar yn 1840, yr oedd cyfarfod yn y Bontnewydd, cyfarfod ynglŷn â'r hyn a elwid yn "Connexion Sir Gaernarfon"—ac yr oedd Caledfryn yno ar ei orsedd, ac heb ond ei bleidwyr gydag ef. Nid oeddwn yn bresennol, nac yn gwybod am y cyfarfod; ond yr oedd Mr. Robert Ellis, Rhoslan, yno, ac y mae yn debyg i Caledfryn alw sylw Mr. Ellis at fy achos i. Nid wyf yn gwybod yn gywir beth fu yr ymddiddan, ond cyn belled ac yr adroddid hi wrthyf fi gan y rhai oedd yn bresennol, dywedent nad oedd ganddynt ddim yn fy erbyn i ond fy nghysylltiad ag eglwys Bangor. Os oedd eglwys Bangor yn afreolaidd, fod yr holl bregethwyr a godid ganddi yn afreolaidd. Dywedai rhai ohonynt, gan fy mod wedi fy nghyflwyno yn Llanberis fisoedd cyn hynny, ac wedi pregethu yn holl gapeli y wlad, mai g'well fuasai peidio gwneyd sylw pellach o'r achos. Ond mynnai Caledfryn nad oedd pregethwr a godasid gan weinidog ac eglwys afreolaidd yn bregethwr rheolaidd, ac mai yr unig beth allesid wneyd oedd i eglwys Tabor, yr hon oedd yn eglwys reolaidd, i'm codi; ac i mi fyned allan fel pregethwr o Tabor, ac nid o Fangor. Cefnogwyd Caledfryn yn hyn, a gosodid ar Mr. Robert Ellis i'w gario allan. Sôn a wneir am yr hen Anibyniaeth a'r hen Anibynwyr! Dyna yr ysbryd oedd yn ffynnu, a pha ryfedd fod y fath ragfarn wedi ei greu yn erbyn Undeb Sirol? Gŵr hynaws, heddychol, oedd Mr. Robert Ellis. Ni fynnai