Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVI. SIOMEDIGAETHAU.

Un bore, pan oedd fy meddwl yn gythryblus, dyma i mi lythyr oddiwrth Mr. Rees, o Lanelli, yn dweyd, os nad oeddwn wedi cytuno i aros yn Nhrefdraeth, fod arnynt hwy eisiau dyn ieuanc yn Siloa, fod y bobl wedi fy hoffi pan y bum yno, ac os, wedi cael prawf pellach, y deuent hwy a minnau i ddealldwriaeth, y byddai yn dda ganddo gadarnhau yr undeb rhyngom. Gwelais ddrws yn ymagor, ac anfonais yn y fan y deuwn, ac y byddwn yno erbyn yr ail Sabboth. Yr oeddwn, drwy drefniad, i fod yn Maenclochog y Sul dilynol, a phenderfynais fyned yn fy mlaen oddiyno i Lanelli. Cyrhaeddais Lanelli ar y Sadwrn, a gelwais yn nhy Mr. Rees; ac yr oedd wedi trefnu i mi i fyned i letya at fam y Parch. D. Williams, Blaenau,—hen wraig garedig, a fu i mi fel mam, a'i merch Peggy, a briododd wedi hynny â Thomas Jones, diacon yn Nghapel Als, a fu i mi fel chwaer. Nid angholiaf byth eu caredigrwydd. Yr oedd Mr. Rees hefyd wedi ysgrifennu at y Parch. R. P. Griffith, Pwllheli, ac wedi cael atebiad cyffelyb i'r un a anfonasai i Drefdraeth, fel nad ymddanghosai mor bleidiol i mi ag y gallesid disgwyl. Yn anffodus, yr oedd Henry Davies,—Bethania wedi hynny—wedi anfon ei gyhoeddiad i fod yn Llanelli y Sabboth hwnnw, a phregethodd ef yn Ngapel Als y bore, ac yn Siloa yr hwyr. Tybiodd rhai mai efe oedd y pregethwr ddisgwylid, a dechreuasant ei ganmol, ac, wedi deall eu camgymeriad o'r dyn, nid oeddynt yn barod i newid. Bum yno dros fis neu chwech wythnos, a gallaswn aros yn hwy, ond gan nad oedd arwydd eu bod yn dyfod i unrhyw