Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

benderfyniad, dechreuais anesmwytho. Mae yn debyg nad oedd Mr. Rees yn gweled addfedrwydd digonol i ddwyn y peth ger bron yr eglwys; mwy na thebyg nad oedd yn teimlo yn gryf iawn ei hun, er iddo fod yn hynod o garedig i mi, a gwnaeth bod gydag ef yr wythnosau hynny i mi lawer o les.

Yr oedd fy nghyfaill, John Evans, wedi cael galwad o'r Maendy, ac i gael ei urddo ym mis Hydref, a phenderfynais fyned yno. Pregethais yng Nglandŵr, Treforis, a Chwmafon ar fy ffordd. Cefais bawb yn garedig, yn enwedig y Parch. Daniel Griffiths, Castell Nedd. Cymhellai fi yn daer i fyned i'r Llwyni, lle yr oedd achos newydd,—Soar, Maesteg yn awr—wedi ei gychwyn gan nifer o bobl oedd wedi torri allan o Carmel, o dan y broffes o fod yn fwy o ddiwygwyr na'r rhai a adawsant ar ol. Addewais yr awn wrth ddychwelyd. Wedi yr urddiad yn y Maendy, ymdroais yn y wlad dros rai wythnosau. Bum Sabboth yng Nghaerdydd, a Sabboth arall ym Mhenmain. Yno y cyfarfyddais à John Davies, Cilcenin,—y dyn dall,—ac y clywais ef yn pregethu ddwywaith. Oddiyno aethum tua Merthyr ac Aberdâr, yn ol cytundeb a wneuthum yn y Maendy a'r Parch. T. Rees, Aberdâr (Dr. Rees wedi hynny). Yr oedd dadl Rhymni newydd basio, ac yn Merthyr cyfarfyddais â Jones Llangollen, ac a'm hen gyfeillion Edward Roberts, a Ieuan Gwynedd, a William Edwards, y rhai oeddynt fyfyrwyr yn Aberhonddu, ac wedi dyfod i Ddadl Bedydd Rhymni i fod yn reporters. Buom yn cydgynnal cyfarfod dirwestol ym Mhontmorlais. Aethum o Aberdâr trwy Hirwain, i Gastell Nedd, a