Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn i'r Cymry. Trwy gynorthwy ei gymydoges urddasol, Madam Beavan, ac amryw o rai haelionus eraill, darfu i Mr. Griffith Jones osod fyny ysgolion Cymraeg trwy'r wlad, er mwyn i'r tlodion gael odfa i ddysgu darllen iaith eu mamau.

Yr Ysgolion Cylchynol.

P. Pa bryd y dechreuwyd yr ysgolion elusengar hyn?

T. Tybygol mai o gylch 1737.[1] Dywed Dr. Llewelyn, yn y lle a nodwyd olaf, o'i lyfr a enwir isod, i uwch law un ugain ar ddeg o flloedd o ddynion gael eu dysgu yn yr ysgolion hynny, mae'n debyg cyn 1768; canys yr oeddent yn cael eu cadw yn y blaen wedi marw Mr. Jones, fel y nodir yno.

Bu farw y gwr enwog hwn yn 1761. Mae Mr. W. Williams, yn ei farwnad am dano, yn ei alw yn seren oleu, ac yn dywedyd,—" Hon ei hunan a ddisgleiriodd."[2] Nodir yno am yr ysgolion, eu bod uwch law tair mil o rifedi, ac uwch law chwech ugain mil o ysgolheigion wedi bod ynddynt. Wrth yr hanes uchod, yr oedd o gylch can mil yn ychwaneg wedi bod yn yr ysgolion o 1761 hyd 1768.

Diwygiad tua 1736.

P. Mae rhai yn son am ddiwygiad mawr yng Nghymru o gylch 1736; tybygol mai amgylch yr amser hynny y dechreuwyd yr ysgolion.

  1. Historical and Crit. Remarks," P. 2. "Welsh Piety for the year 1768."
  2. Yr oedd Mr. Griffith Jones yn bregethwr enwog o gylch 30 flynyddau cyn 1737. See his life in the Gospel Mag, fo July 1777