Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi cael ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth. Felly Cynghorwr yr oeddid yn ei alw ef. Aethant yn y blaen trwy'r holl wlad, a chododd llawer iawn o gynghorwyr o amryw raddau, sef rhai yn fwy enwog, ac eraill yn llefaru ychydig wrth angen, felly cynhyrfwyd y wlad. Gadawodd y bobl eu difyrrwch pechadurus, a dechreusant son am grefydd, ac ymgasglu ynghyd yn gymdeithasau crefyddol. Felly bu diwygiad mawr yn y wlad. O hynny hyd yn hyn, mae gwybodaeth o Dduw wedi ymdaenu yn rhyfedd trwy Gymru, canys yr oedd lluoedd o'r bobl o'r blaen, nad oeddent yn myned yn agos i dŷ cwrdd, nag ond anfynych i un eglwys; eto aent i wrando fel hyn. i'r teiau, a'r prif ffyrdd, a'r caeau.

Erlid a barnu'n galed.

P. A oeddent ddim yn cael eu herlid am y pethau hyn?

T. Yr oedd llawer o erlid tafod arnynt, ac ar brydiau byddent yn cael eu mawr amharchu. Nid oedd disgwyl eu bod hwythau yn rhydd oddiwrth amherffeithrwydd amryw ffyrdd. Ond fy niben i yw rhoi eu hanes yn gyffredin. Mi ddymunwn pe baent yn ysgrifennu eu hanes eu hunain, yn fyrr, ac eto yn lled neillduol, mewn ysbryd addfwyn a chariadus. Hyn a fu un gwendid yn eu plith o'u dechreu yn agos, sef barnu yn galed iawn ar bawb ond eu hunain. Parodd hyn i lawer ddywedyd yn waeth am danynt hwy; eithr y mae yn eu plith lawer o ddynion duwiol addfwyn. Felly ar y cyfan, diwygiad yn ddiau a fu, er fod rhai yn y wlad yn ei alw yn ddirywiad. Eto, sicr yw, fod eisiau ychwaneg o ddiwygiad yn eu plith hwy ac ereill.