"Methodists."
P. A oes un enw neillduol ar y Diwygwyr diweddar hyn?
T. Oes, eu henw cyffredin yw "Methodists." Dywedir i'r gair hwn ddechreu yn Rhydychen, lle y dechreuodd y diwygiad, ac i'r bobl yno alw yr ymofyniad newydd yma am grefydd, "New Method," hynny yw, dull neu ffordd newydd. Ac oddiar hyn tanodd yr enw "Methodist" trwy Loegr a Chymru.
Beth ydynt?
P. Pa un ai Eglwys Loegr ydynt neu Ymneillduwyr?
T. Nid hawdd yw ateb hyn. Nid ydynt yn hollol o'r eglwys honno, nac eto yn cwbl neillduo. Mae rhai o honynt yn canlyn holl ddefodau Eglwys Loegr, a rhai yn addoli fel yr Ymneillduwyr. Maent wedi adeiladu llawer o dai cyrddau ar hyd Cymru. Nid wyf fi yn dewis dywedyd dim ychwaneg am danynt. Os dywedais un peth allan o le, o gamsynied y bu, ac nid o fwriad na diben; canys ni fynnwn roi drygair i neb ag sydd am ganlyn Crist yn ffyddlon. Mae rhai yn canmol y Methodists ormod, a rhai yn eu cablu ormod.[1]
- ↑ Mae awdwr diweddar o Eglwys Loegr yn rhoi'r hanes byr hyn am y Methodists. Mi a roddaf ei ddarluniad yn ei eiriau ei hun, heb eu cyfieithu: "They are a plain and enthusiastic people, who differ from the Church of England, only by a strict adherence to her articles; from which they plead, that the Church has herself departed in certain points." Noorthouck's Dictionary," on the word Methodists. Yr wyf yn edrych ar hyn yn ganmoliaeth iddynt yn hytrach nag achwyniad arnynt, yn enwedig ond gadael allan y gair "enthusiastic."