Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prinder Beiblau.

P. Pa fodd yr oedd y wlad am Feiblau yr amser hyn?

T. Daeth prinder mawr yn fuan, canys o gylch 1741, gorfyddai rhoi ugain swllt am Feibl, ac yn fynych ni ellid cael un am arian. Yn 1746, daeth allan argraffiad helaeth o'r Beibl,[1] ond gan fod yr ysgolion Cymraeg yn ymdanu dan ofal Mr. Griffith Jones, a phregethiad yr efengyl gymaint gan y Methodist ac eraill, darfu'r argraffiad hwnnw yn fuan iawn; gan hynny daeth y Beibl allan drachefn yn 1752. Yr oedd yn y ddau argraffiad ddeng mil ar hugain o Feiblau. Dywedir i'r Gymdeithas haelionus a enwyd yn Llundain roddi tuag atynt chwe mil o bunnau trwy gynorthwy haelioni eraill mewn gwlad a thref. Daeth y ddau argraffiad hyn allan dan Richard Morris.

ofal Mr. Richard Morris, gwr bonheddig o Gymru, sydd yn byw yn Llundain. Gwr deallus a hyfforddus iawn ydyw yn iaith а hanesion Cymru.[2] Yr oedd Mr. Griffith Jones yn annogaethol iawn yn y ddau argaffiad hyn, ac i gyfrannu y Beiblau ar hyd y wlad. Darfu hefyd i'r

Dr. Joseph Stennett.

diweddar Dr. Joseph Stennett roi cynorthwy

  1. Yr oedd yr argraffiad hwn, gan mwyaf, yn ôl trefn Beibl Mr. Moses Williams, ond ychwanegwyd at y Tablau yn y diwedd. Rhodded Tablau arian, pwysau a mesurau crybwylledig yn yr Ysgrythyr Lân gan Richard Morris, Esq.. golygwr yr argraffiad. Ychwanegwyd hefyd dair gweddi at y rhai o'r blaen. Yr oedd yr argraffiad yn 1752 yn gyffelyb i'r un yn 1746, a than ofal yr un golygwr.
  2. Historical Account," P.P. 53. 54