T. Do; daeth argraffiad helaeth allan yn 1769. Ar draul y Gymdeithas urddasol a enwyd, yn Llundain, y bu hyn gan mwyaf. Eu bwriad pennaf hwy oedd cyflawni diffygion Eglwys Loegr. Ond yma darfu i'n cydwladwr caredig, Dr. T. Llewelyn, afaelu mewn odfa i wneyd cymwynas i'r Cymry. Wedi iddo ymddiddan â rhai o'r gwyr boneddigion, cafodd gan y Gymdeithas fod mor fwyn ag argraffu rhai miloedd yn ychwaneg na'u hamcan ar y cyntaf, er mwyn cyflawni diffygion yr Ymneillduwyr hefyd. Felly yr oedd yr argraffiad ynghylch 2,000 o lyfrau.[1]
Beibl Peter Williams, 1770.
Trwy annogaeth Dr. Llewelyn, cynorthwyodd amryw eraill yn yr argraffiad hwn.[2] Ar yr un amser yr oedd y Beibl Cymraeg yn cael ei argraffu yng Nghaerfyrddin, ac esboniad, neu sylwadau byr ar bob pennod, gan Mr. Peter Williams, gweinidog o Eglwys Loegr, yr hwn a enwyd yn barod. Daeth hwn allan yn 1770. Yr ydys yn barnu mai hwn oedd yr esboniad Cymraeg cyntaf ag amcanwyd ar yr Ysgrythyr, erioed. A sicr yw mai hwn yw'r Beibl Cymraeg cyntaf a argraffwyd erioed yng Nghymru. Bu Mr. Peter Williams ofalus ac egniol iawn i ddwyn y gorchwyl trwm hwn i ben. Argraffodd wyth mil o honynt, ac erbyn rhwymo'r llyfr yr oedd yn sefyll ger llaw punt i'r prynwr, bob ffordd, ac eto mae newid fawr arno. Trugaredd fawr oedd i'r un gwr gael bywyd, iechyd, a