yng Nghymru. Yr wyf fi'n tybied fod llai o ragfarn rhwng gwahanol bobl nag a fu ys cannoedd o flynyddau. Er nad yw yr Ymneillduwyr yn pregethu yn y llannoedd, eto maent yn myned yno i wrando yn fynych; a rhai o weinidogion Eglwys Loegr yn pregethu yn y Tai Cyrddau. Cywiro Peter Williams.
P. Dywedasoch i'r Cymry dderbyn Pabyddiaeth yn hollol yn y flwyddyn 763. Ond y mae Mr. Peter Williams yn ei lythyr o flaen y Beibl, a argraffwyd yng Nghaerfyrddin, yn dywedyd i wir grefydd gael ei maentumio gan y Cymry hyd 1115, ac nad ymostyngasant i'r Pab hyd y flwyddyn honno. Pa fodd y cydsaif y pethau hyn?
T. Nid wyf fi yn ameu na ddarfu i Mr. Peter Williams ddarllen, neu glywed, nen gasglu felly. Ni wn i am un ffordd arall i farnu am yr amseroedd gynt. Nid yw Mr. Williams ddim yn dywedyd ar ba awdurdod y mae'n seilio yr hyn sydd yn ei lythyr. Mae Mr. Thomas Williams, ein cydwladwr, yn dywedyd i Cadwalader Fendigaid, brenin diweddaf y Cymry, fyned i Rufain er mwyn byw yn grefyddol, a marw yno.[1] Mae Caradoc o Lancarfan, neu un o'i ddiwygwyr, yn cytuno â hyn, o ran y sylwedd; ac yn dywedyd i Cadwalader gael ei dderbyn yn garedig gan y Pab, ac wedi byw yno wyth mlynedd, iddo farw yno yn 688[2] . Wrth hyn ymddengys fod yr hen Gymry yn gyfeillgar ag Eglwys Rufain cyn y flwyddyn 700. Cymerodd Mr. Theophilus Evans lawer o boen a gofal i chwilio hanesion y Brutan-