fod yn weinidogion Eglwys Loegr. Dangoswyd yn barod fel yr oeddid yn gwneyd o gylch 1653. Wedi dyfod yr erledigaeth yn 1660, &c., yr oedd amryw o'r gweinidogion a drowyd allan o'r llannoedd yn ysgolheigion da, ac eraill o honynt yn weinidogion doniol duwiol, heb gael llawer o ddysg mewn ysgolion. Tra parhaodd yr erledigaeth, yr oedd rhai yn anfon eu plant i'r ysgolion lle y gallent ar hyd y wlad, a rhai yn cael eu danfon i Loegr. Yr oedd rhai o'r gweinidogion a droasid o'r eglwysi yn cadw ysgolion yn yr un lle a'r llall. Byddai rhai dynion ieuainc gobeithiol yn myned atynt hwy. Yr oedd Mr. Samuel Jones o Fryn Llywarch, ymhlwyf Llangynwyd, yn sîr Forganwg, yn cadw ysgol. Efe a ddysgodd amryw, a hefyd Mr. James Owens, yn y Mwythig.[1] A Mr. Rees Prydderch hefyd.[2] Mr. Richard Frankland oedd wr enwog yn Lloegr.[3] Yr oedd Mr. Reynald Wilson hefyd yn cadw ysgol yn sîr Drefaldwyn. Ond wedi dyfod heddwch, a marw y gwyr da hyn, neu rai o honynt, gosododd Mr. William Evans brifysgol i fyny yng Nghaerfyrddin. Coleg Caerfyrddin.
Nid wyf fi sicr pa flwyddyn y dechreuodd, ond yr wyf yn meddwl i'r ysgol gael ei gosod i fyny yno. ar farwolaeth Mr. James Owen, yr hyn a fu yn y flwyddyn 1706, fel y dywed Dr. Calamy, yn y lle a enwyd uchod. Os ni ddechreuwyd ysgol Caerfyrddin yr amser hynny, nid hir y bu cyn dechreu wedi hynny. Ar ôl marw Mr. W. Evans, dewiswyd Mr. Thomas Perrot i fod yn athraw y brif ysgol yng Nghaerfyrddin. Dywedir i Mr. Thomas