Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto i'w cyflawni, ac ni ellir eu deall heb hanes yr Egiwys. Pe buasem ni heb ddim hanes wedi'r oes apostolaidd, ni allasem ni wybod dim am yr holl erledigaethau chwerwon, a'r gwaredigaethau rhyfedd a gafodd yr Eglwys, ys agos i ddwy fil o flynyddau. Ni allasem ni ddim gwybod pa mor dda a ffyddlon y bu Duw i'w bobl, a channoedd o bethau eraill.

Y Cymry'n rhan o'r Eglwys.

P. Weithian i ddyfod yn nes adref; a ydyw'r Cymry yn rhan o'r Eglwys?

T. Ydyw'r duwiolion oll o bob llwyth, iaith,

a chenedl.[1]

  1. Dat. v. 9 a'r vi