Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brutaniaid yn dal yr athrawiaeth a dderbyniasant oddiwrth yr Apostolion. Yr oedd Pabyddiaeth wedi tyfu yn Rhufain. Pan y daeth Awstyn Fynach i droi y Saeson o fod yn baganiaid i fod yn Bapistiaid, mynnai ef i'r Cymry droi yn Bapistiaid hefyd. Ond hen Grisnogion deallus dewrion oeddent hwy, ac nid paganiaid anwybodus. Eto, er mwyn gwneyd cytundeb mewn crefydd rhwng y Cymry a'r Saeson, cynhaliwyd cymanfa fawr i'r diben hwnnw, tua chydiad sir Henffordd a sir Gaerwrangon, yn y maes, dan dderwen fawr gaeadfrig, yr hon a elwid wedi hynny Derwen awstyn; ond tebygol ei bod wedi ei thorri lawr cyn ein hainser ni. Yina'r oedd nifer fawr o weinidogion a bonedd Cymru. Er mwyn tynnu dibên byr ar yr yinddadleu, gosododd Awstyn dri phwnc a flaen y Cymry, gan addo y byddai pob peth yn heddychol os cytunent ar hynny. Un o'r tri peth oedd iddynt fedyddio eu plant.

Bedydd yn Eglwys y Cymry ac yn Eglwys Rufain.

P. P'un oedd Awstyn ai ewyllysio i'r Cymry fedyddio eu plant, neu ynteu eu bedyddio yn ôl trefn eglwys Rhufain, yr hon oedd mor llygredig?

T. Mae y sawl sydd dros fedydd plant yn dywedyd mai ceisio yr oedd ef gan ein tadau i fedyddio yn ôl trefn Rhufain.

P. Beth oedd trefn Rhufain yr amser hynny?

T. Tebygol mai trochiad oedd yr arfier, canys dywedir fod miloedd o'r Saeson yn cael eu bedyddio yn yr afonydd Gwâl, Swini, &c. Ond y mae Fuller a Fabian yn dywedyd y mynnai Awstyn i'r Cymry fedyddio eu plant. Y neb a fo am weled ychwaneg o r pethau hyn, darllened y