Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni wyr ef ddim pa un ai efe neu arall a wnaeth y gwaith uchod. Hyn sydd sicr, mae Mr. Fox yn dyweyd am Tyndal ei fod o gyffiniau Cymru, ond iddo fyw ennyd o'i amser yn sir Gaerloew. Sicr yw mai Tyndal a drodd y Beibl i'r Saesneg, a gorfod arno fyned dros y môr o achos hynny, ac o'r diwedd cael ei losgi gan y Papistiaid am ei waith yn 1536. Mae'n bosibl y gallai efe fod a llaw yn y gwaith i ddechreu troi gair Duw i iaith ei gydwladwyr a'i genedl ei hun.

Y Protestaniaid.

P. A wyddoch beth oedd dechreu ac ystyr y gair Protestaniaid?

T. Wrth weled llwyddiant Luther, yr oedd y Pab a'i weision yn fawr am ei ddifetha ef: ond gan fod cynnifer wedi profi budd trwy ei athrawiaeth, darfu i o gylch deuddeg o dywysogion yr Ellmyn, neu Germani, gytuno â'u gilydd i sefyll o ran Luther, ac yn erbyn Pabyddiaeth; ac ysgrifennu'r cytundeb a'i alw protest, sef cyd-dystiolaeth yn erbyn Pabyddiaeth. O hynny allan galwyd y rhai a ymadawsant âg Eglwys Rufain, er mwyn cydwybod, yn "Brotestaniaid ac yn ddiwygwyr." Bu hyn o gylch 1530.

Eglwys Loegr.

P. Mae rhai yn meddwl mai aelodau o Eglwys Loegr yn unig a elwir Protestaniaid.

T. Nid yw'r cyfryw ddim yn ystyried mor ieuanc yw Eglwys Loegr.

P. Tybygid fod rhai yn meddwl fod yr eglwys honno yn agos er amser y diluw.