Prawfddarllenwyd y dudalen hon
erlid blin trwy'r deyrnas gan y Papistiaid ar Eglwys Loegr ar fyrr wedi hyn, a charcharwyd a llosgwyd amryw o'i blaenoriaid a'r bobl cyffredin; sef yn amser Mary waedlyd.
Y Merthyron Farrar a White.
P. A ddioddefodd y Cymry yn yr amser hynny ?
T. Nid llawer, canys Papistiaid oeddent hwy gan mwyaf yn eu calonnau, ac nid oeddent hwy ddim am wrthwynebu yn eu bywyd.[1] Nid wyf fi yn cofio fod Mr. Fox yn sôn ond am ddau a ddioddefodd yng Nghymru yn yr amser hynny. Un oedd Dr. Robert Farrar, esgob Tŷ Ddewi, yr hwn a losgwyd yn nhref Caerfyrddin; a'r llall oedd Rawlins White, fel y mae ef yn ei alw, o sir Forganwg, gerllaw Caerdydd. Am dano ef— dywedir na fedrai ef ddarllen, ond iddo roi ei fab yn yr ysgol i ddysgu yn bwrpasol, fel y gallai
- ↑ Hanes y Byd a'r Amseroedd, tu dal. 219.