Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

argoel yr elai gwaith mcr fawr yn y blaen mewn mor lleied o amser, heb neb yn cael eu trefnu i'w wneyd, na neb yn addo dwyn y draul.

Y Testament Cymraeg, 1567.

P. Beth fu'r canlyniad?

T. Yn 1567 daeth allan y Testament Newydd yn Gymraeg, yn llyfr trefnus, pedwar plyg, yn cynnwys 399 o ddalennau, a llythrennau duon, wedi ei rannu yn llyfrau a phenodau fel yn awr, ond nid yn adnodau, oddieithr ychydig tua'r diwedd. Mae ynddo ystyr pob pennod, ac agoriad ar eiriau dyfnion yn ymyl y ddalen.

Y Cyfieithwyr.—William Salesbury, Richard Davies, Thomas Huet.

P. Pwy ai cyfieithiodd ef?

T. Gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith da hwnnw gan Mr. William Salesbury, gwr rhagorol yn ei ddydd, ac a fu ymdrechiadol iawn dros y Cymry. Efe oedd wedi cyfieithu yr hyn a argraffwyd yn 1551. Gwr dysgedig a duwiol ydoedd, [1] ond nid gweinidog. Cyfieithwyd yr

  1. Mae Cofrestr Mr. Moses Williams yn dywedyd am Mr. William Salesbury mai gwr bonheddig ydoedd yn byw yn y Cae-du, yn Llansannan, yn sir Dinbych. Rhyfedd yr ymdrechodd y gwr da hwn dros y Cymry, er mwyn torri gwawr yr efengyl yn eu plith. Efe oedd awdwr y llyfrau canlynol: "A Dictionary in Englyshe and Welshe moche necessary to all suche Welshmen as wil Spedly learne the Englyshe tongue, thought unto the Kynges majestie very mete to be sette forthe to the use of his Graces Subjectes in Wales: Whereunto is prefixed a little treatyse of the Englyshe pronnunciation of the Letters." Argraffwyd hwn yn 1547. a'r ail lyfr ydoedd a ddaeth allan er mwyn y Cymry, yn ol y Gofrestr. Gweler hefyd Ragymadrodd Geir-lyfr Mr. T. Jones yn 1688.
    Wrth yr hyn sydd yma, a'r hyn a nodwyd o'r blaen, gwelir fod llawer o wahaniaeth rhwng y Gymraeg a'r Saesnaeg yr amser hynny a'r amser hyn. Mi a gymerais y geiriau mor gywir ag a gellais o'r Gofrestr, er mwyn dangos i'r darllenydd y gwahaniaeth hynny. Bu Mr. William Salesbury yn llafurus dros ei gydwladwyr yn amser Harri yr Wythfed, ac yn amser Edward y chweched, ac efe a lechodd, er hynny, yn rhyw fodd tra y parhaodd yr erledigaeth gwaedlyd a thanllyd yn amser Mary. Ond wedi ei marw hi, a dyfod Elizabeth i'r deyrngadair, cymerodd y gwr rhagorol ei waith da yn llaw drachefn. Trefnodd yr esgobion ef i edrych at argraffiad y Testament Newydd, fel y bu ef mor ofalus i gyfieithu y rhan fwyaf o hono.