Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ail epistol at Timotheus a'r un at yr Hebreaid, ac epistolau lago a Phedr, gan Dr. Richard Davies, esgob Tŷ Ddewi, yr hwn a enwyd yn barod. Cyfieithwyd y Dadguddiad gan T. H. C. M. Yr ydys yn meddwl mai Mr. Thomas Huet oedd y gwr da hwnnw. Argraffwyd hwn yn Llundain gan Henry Denham, ar draul Humphrey Toy. Mae calendar o'i flaen ef, a llythyr Saesneg o gyflwyniad gan Mr. William Salesbury at y frenhines Elizabeth. Yno mae'r gwr da yn dangos mor llawn o anwybodaeth oedd ei gyd-wladwyr, ac o eilunaddoliaeth; yn lle addoli'r Duw byw, yn addoli delwau o goed a maen, clychau ac esgyrn, &c., yr amser a aethai heibio, ac mor dda oedd y frenhines am adael iddynt gael Gair Duw i'w plith: ac y mae'n nodi mor ddymunol a fyddai cael y rhan arall o hono, sef yr Hen Destament, ac y gellid wedyn ddywedyd am y Cymry,—"Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddant ym mhro a chysgod angeu y cyfododd goleuni. Gwyn fyd y bobl y mae felly iddynt ; ïe, gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt." Llythyr serchog ystyriol ydyw. Mae yno lythyr arall yn Gymraeg gan yr esgob at ei gydwladwyr.