Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esgob Caergaint, esgobion Bangor a Llanelwy (Dr Hughes a Dr. Ballot, fel tybir), Dr. Gab. Goodman,[1] Dr. David Powell, Mr Edmund Prys, archddiacon Meirionydd, yr hwn a drodd y Salmau ar gân, y rhai sydd yn niwedd y Beibl Cymraeg hyd heddyw. Hefyd, bu Mr. Robert Vaughan a Dr. John Davies yn cynorthwyo. Tybygol fod y tri chyfieithwr a enwyd uchod wedi marw pan ysgrifenodd Dr. Morgan y llythyr, gan nad yw ef yn eu henwi hwy; ond odid na buont hwy yn gynorthwy cyn eu marw.

Beibl y llannau'n unig.

P. Trugaredd fawr oedd cael y Gair. Ond a argraffwyd digon i'r wlad?

T. Na ddo, na'r ugeinfed ran. Nid oeddent ond Beiblau mawrion i'r llannoedd a'r lleoedd addoliad cyhoeddus. Yr ydys yn barnu fod yn agos mil o'r cyfryw leoedd addoliad yng Nghymru, yn ôl trefn Eglwys Lloegr. iddynt argraffu mil o Feiblau yr amser hynny.

Gramadeg Cymraeg ac Egluryn Ffraethineb.

P. Beth oedd y wlad yn wneyd am Air Duw i'w ddarllen?

T. Yr oedd yr holl wlad yn anwybodus iawn, a chorff cyffredin y bobl heb fedru darllen. yr oedd rhai yn myfyrio pa fodd i ddwyn y bobl i ddarllen yn ddeallus eu iaith eu hunain. diben hynny argraffwyd Gramadeg Cymraeg gan Dr. Griffith Roberts, a Retoreg Gymraeg

  1. Dywedir i Dr. Gab. Goodman gael ei eni yn nhref Ruthyn yn sir Dinbych, ac i'r Beibl gael ei gyfieithu ar ei draul ef. Mae'n debyg iddo ddwyn rhan ganmoladwy o'r draul. Noorthouck's Historical and Classical Dictionary."