Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Mr. Harry Perry, yr hwn a eilw ef "Eglyrun Ffraethineb." Yn nechen y llyfr hwn y mae deuddeg, neu 'chwaneg, o wyr enwog yn gosod allan ei glod mewn ffordd o ganmoliaeth; rhai o honynt yn sgrifennu yn Lladin, rhai yn Saesneg, a rhai yn Gymraeg. Ond y mae'n debyg fod yr esgob cymwynasgar, sef Dr. Morgan, yn meddwl argraffu y Testament Newydd i'r bobl gyffredin, canys efe a'i diwygiodd yn y cyfeithiad drachefn, ac yr oedd yn barod i'w argraffu yn 1604, pan y bu'r gwr da farw.

P. A argraffwyd hwnnw i'r bobl?

T Ni ellais i gael dim gwybodaeth am hynny. [1]

  1. Yn ôl Cofrestr Mr. Moses Williams ni argraffwyd dim llyfrau Cymraeg ond y rhai canlynol cyn y flwyddyn 1600:- sef y tri yn 1546, 1547. a 1551, cynhwysiad pa rai a roddwyd yn barod. Y ddau olaf, os nid y tri hyn, gan Mr. William Salesbury. Yn y chwanegiad at y Gofrestr nodir i un gwr, sef William Salesbury, argraffu llyfr Saesneg yn 1550 er mwyn y Cymry o'r enw A brief and plain Introduction, teaching how to pronounce the Letters in the British Tongue." Argraffwyd tri llyfr yn ychwaneg yn 1567, sef y Testament Newydd, fel y nodwyd, y llyfr Gweddi Gyffredin, o gyfieithiad William Salesbury, a Gramadeg Dr. Griffith Roberts, a enwyd yn barod. Erbyn hyn yr oedd y Testament gan ein hynafiaid; ond nid oedd ganddynt eto un lyfr o eglurhad arno, yr ychydig lyfrau eraill oeddent tag at addoliad Eglwys Loegr, ac i ddysgu darllen. Ymhen deunaw mlynedd ar ôl hyn, sef yn 1585. daeth allan lyfr hyfforddus mewn crefydd, fel y tybid wrth yr enw, sef Y Drych Cristionogawl, yn yr hwn dichon pob Cristiawn ganfod gwreiddin a dechreuad pob daioni sprydawl, sef gwybod modd i wasanaethu Duw, drwy ei garu ai ofni yn fwy na dim, &c." Yn 1592, medd y Gofrestr, y daeth allan Lythyreg, neu Ramadeg y Meddyg enwog hwnnw, Dr. John David Rees. Llyfr i'r dysgedig oedd hwnnw, yn Gymraeg a Lladin. Daeth hwn allan, ebe Mr. John Rhydderch yn Rhagymadrodd ei Ramadeg Cymraeg," yn 1590. Yn 1593 daeth allan Ramadeg Cymraeg tra chiwrain tuag at Brydyddiaeth neu Farddoniaeth, o waith y Cadpen William Middleton. A'r un flwyddyn y daeth allan Retoreg Mr. H. Perry, a enwyd eisioes. Yn 1594 argraffwyd Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr," o gyfieithiad Mr. Cyffin. Mae'r gwr hwn yn ei lythyr at y darllennydd yn dangos paham nad oeddid wedi argraffu mwy o Gymraeg yn gynt; sef pan yr oeddid yn sôn, mewn eisteddfod, am breintio Cymraeg, i wr eglwysig o Gymru ddywedyd yn erbyn argraffu un math o lyfrau Cymraeg er mwyn i'r Cymry oll ddysgu Saesneg, a cholli'r yr hen iaith yn hollol. Ond, ebe Mr. Kyffin, A allai y diawl ei hun ddywedyd yn amgenach, neu yn waeth? Nid digon oedd ganddo ysbeilio'r cyffredin o'u da daearol, ond efe a fynnai gwbl anrheithio eu heneidiau hefyd. Ond gan fod llyfr gair Duw wedi ei Gymreigu a'i breintio, nid gwiw i neb o blant v diawl bellach geisio tywyllu goleuni Cymru, gwnelent eu gwaethaf."(Llythyr Mr. S. Hughes o flaen llyfr y Ficar yn 1672) Gwelwn mor fawr oedd sel y gwr cwmynasgar hwn dros y Cymry druain. Yr oeddid wedi argraffu'r Ysgrythyr chwech mlynedd o'r blaen, fel y nodwyd. Dyma gyfoeth y Cymro o ran llyfrau yr amser hynny, sef yn 1600. Anwybodus iawn oedd y bobl eto, er fod hyn yn ddechreu gobeithiol tuag at oleuo cenedl a fuasai cyhyd mewn dudew dywyllwch. Mae Mr William Salesbury, yn ei lythyr o flaen y Testament at y frenhines, yn dyweyd an y Cymry fod yn anhawdd iawn ganddynt gynt dderbyn y grefydd Babaidd; ond yn awr, ebe fe, wedi ymarfer cyhyd â hi, anhawdd eto ganddynt ei gadael, a derbyn efengyl Crist.