Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hebraeg a'r Groeg fel, o bosibl, nad oes un cyfieithiad o'r Ysgrythyr yn y byd yn well na'r un Cymraeg, ond y mae llawer yn waeth nag ef; er ei fod yn hir cyn dyfod, eto efe a wnaed yn dda o'r diwedd.[1] Dylai'r gwyr ardderchog a lafuriasant gymaint wrtho, ar eu traul eu hunnan, oddieithr rhyw ychydig o wyr da oedd gyda hwy yn cynorthwyo, fod mewn coffadwriaeth dra- gwyddol ymhlith y Cymry.[2].

Beibl 1630.

P. Pa bryd y daeth y Beibl allan i'r bobl gyffredin?

T. Yn y flwyddyn 1630; ychydig wedi can' mlynedd ar ôl dechreu'r Diwygiad; can' mlynedd ar ôl dechreu'r gair Protestaniaid, ac yn agos can' mlynedd wedi dechreu Eglwys Loegr.

Rowland Heylin a Syr Thomas Middleton.

P. Ar draul pwy y daeth hwnnw allan?

T. Ar draul dau wr enwog o hiliogaeth y Cymry, y rhai oeddent y pryd hynny yn henuriaid. yn ninas Llundain; sef Mr. Rowland Heylin a Syr Thomas Middleton, o enedigaeth o Gastell y Wayn, yn sir Dinbych, rhwng Croesoswallt a Wrexham, a rhyw rai eraill yn eu cynorthwyo. Am yr olaf y mae Mr. Stephen Hughes yn

  1. "Historical Account," P. 27.
  2. Ysgolhaig a phrydydd anghyffredin oedd Mr. Edmund Prys, yr hwn a drodd y Salmau ar gân, y rhai sydd er ys hir amser yn cael eu cyd-rwymo â'r Beibl. Dywed Mr. John Rhydderch y medrai y gwr hwnnw eiliaw a gwau prydyddiaeth mewn wyth iaith, eto ei fod yn cyfaddef fel hyn am iaith ei wlad ei hun:—
    "Ni phrofais dan ffurfafen
    Gwe mor gaeth a'r Gymraeg wen." (Rhagymadrodd ei Ramadeg Gymraeg)