Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedyd yn ei lythyr o flaen "Llyfr y Ficar," a argraffwyd yn 1672, mai Sir T. Middleton "yn anad neb arall, a ddangosodd y drugaredd hyn gyntaf i'n gwlad ni, sef i fod mewn traul i argraffu'r Beibl yn llyfr bychan er cyffredin bobl, er ei fod ef o'r blaen yn llyfr mawr yn yr eglwysydd." Ebe efe ymhellach yno—

Yr wyf fi'n dymuno o'm calon ar Dduw am i bob bendith ysbrydol a chorfforol ddesgyn o'r Nef ar bob un o eppil Sir Thomas Middleton, yng Ngwynedd, neu yn un lle arall. Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif; fel tywod y môr, fel glaswellt y ddaiar, ac fel sêr y nefoedd: a dyweded pob un yng Nghymru ag sydd yn caru Duw ac yn hiraethu am iechydwriaeth eneidiau pobl yno, Amen, ac Amen; poed felly b'o, Arglwydd grasol, bendithia eppil Sir Thomas Middleton, a bydded ei enw ef dros byth yn anrhydeddus. Mae teulu anrhydeddus y gŵr haelionus yn byw hyd yn hyn yng Nghastell y Wayn.

P. Pa le y cawsoch chwi y rhan arall o'r hanesion hyn?

T. Y rhan fwyaf o'r hanes am gyfieithad ac argraffiad y Beiblau a gefais o lyfr Seisnaeg ein cydwladwr cymwynasgar Dr. Thomas Llewelyn, yr hwn a enwyd o'r blaen. Mae yn y llyfr hwnnw ychwaneg o hanes, nid yw hyn ond casgliad byrr o'r hyn sydd yno.