Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwr'adwydd tost fydd i'r Brutaniaid,
Eu bod mewn crefydd mor ddieithriad,
Ac na wyr y ganfed ddarllain,
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain."

Mae'r gwr duwiol trwy'r holl gân hon, yn dangos mor werthfawr yw Gair Duw, ac yn taer ddymuno ar y bobl i ddysgu ei ddarllen. Ond y mae'r gân nesaf yn dangos mor dra anfoesol yr oedd y Cymry, yr offeiriaid ac eraill, yr amser hynny. Mae'n y llyfr hwnnw ddwy gân arall, sef "Mene tecel tref Llanddyfri," ac "Achwyn Eglwyswr," yn dangos mor annuwiol oedd y bobl trwy'r wlad, er maint ymdrech y gwr da dros eu heneidiau. Mae fe'n dywedyd yno fel hyn:—

Gwae fy nghalon drom gan hynny, Na buasai Duw'n gwyllysu, Fy rhoi'n fugail ar dda gwylltion, Cyn rhoi'm siars y cyfryw ddynion."

"Diboeth." Sieffre o Fynwy.

P. Rhyfedd fel y bu ar y Cymry! A oes dim llyfrau yn rhoi hanesion o hen bethau ymhlith ein cydwladwyr gynt, heblaw y rhai a enwasoch?

T. Mae'r llyfr a elwir Drych y Prif Oesoedd " yn dywedyd fod dynion dysgedig ymhlith y Cymry cyn erioed iddynt glywed yr efengyl, ac wedi ei derbyn i'w plith; ond difrodwyd eu llyfrau yn ofnadwy yn amser yr erledigaeth echryslon dan Dioclesian, fel y nodwyd. Mae gwaith Gildas, fel y crybwyllwyd, yn dangos fel yr oeddent wedi mawr lygru o gylch y flwyddyn 500, &c. Mae Drych y Prif Oesoedd" yn dywedyd i wr a elwid Twrog ysgrifennu Hanes Eglwysig" o gylch y flwyddyn 600, a'i fod yng nghadw yn Eglwys Gelynnog, yn Arfon, a maen