Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

du arno yn lle cloriau, a bod y llyfr yn cael ei alw "Diboeth," gan iddo ddianc y tân pan losgodd yr eglwys, ac yn nodi i Dr. Thomas Williams ddywedyd iddo ef weled y llyfr yn 1594. Ond mae yn debyg ei fod wedi ei golli. Nodir yn yr un lle fod Tyssilio wedi ysgrifennu hanes yr Eglwys o gylch yr un amser a Thwrog, mae rhyw bethau yn myned ar ei enw ef eto, ond y mae'n debyg nad oes dim sicrwydd mai ei waith ef ydyw.[1] Am hanes gwledig Cymru, tybygol mai'r goreu yw gwaith Jeffrey ab Arthur, a gwaith Caradog o Lancarfan; dywedir i'r ddau gael eu 'sgrifennu yn gyntaf yn Gymraeg, ond cyfieithwyd y cyntaf i'r Lladin gan Jeffrey, a'r llall i'r Saesneg gan Mr. Humphrey Lloyd, yr hwn a fu farw cyn ei argraffu; ond cymerodd Dr. David Powel, am yr hwn y soniwyd o'r blaen, y gwaith yn llaw ac argraffodd ef. Gelwir hwn yn gyffredin "Powel's Chronicle," argraffwyd ef o newydd gan W. Wynne, A. M. yn 1702. Mae yno ragymadrodd helaeth yn dywedyd mwy am y pethau hyn. Hefyd mae Edward Lloyd, A. M., wedi rhoi enwau rhai cannoedd o lyfrau Cymraeg a welsai ef yn 'sgrifennedig; mae'n dywedyd lle'r oedd y rhan fwyaf o honynt, ac yn nodi eu bod gan fwyaf wedi eu 'sgrifennu ar ol y flwyddyn 1000. Prydyddiaeth yw llawer o honynt, a rhai am grefydd. Enw ei lyfr sydd isod,[2] argraffwyd

  1. Mae Mr. E. Lloyd yn son am y ddau wr hyn, Twrog a Thysilio, ychydig yn wahanol oddi wrth Ddrych y Prif Oes— oedd." Mae fe hefyd yn sôn am Gofrestr o hen ysgrifenwyr Cymraeg, o waith Ilaw Mr. H. Salesbury. Mi a dybygwn i Mr. Edward Lloyd weled y Gofrestr honno ei hun. Odid na bu honno yn gynnorthwy iddo ef. Arch. Brit. P. 225.
  2. "Archæologia Britannica."