Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn 1707. Bu ef lafurus iawn. Bu farw yn 1709.<ref>Gwr bonheddig o dref Dinbych oedd Mr. Humphrey Lloyd. Bu farw yn 1570. Sir Henry Sidney a annogodd Dr. D. Powel i gymeryd gwaith Mr. Humphrey Lloyd yn llaw, er mwyn ei wneyd yn gyhoeddus. Felly argraffwyd ef yn 1584. Diwygiwyd y gwaith ar ol yr hyn a wnaeth Mr. Wynne yn 1702; ac argraffwyd ef mor ddiweddar a 1774.(Noortbouck's "Historical and Classical Dict. on the letter L.") Gwr o sir y Awythig, gerllaw Croesoswallt, oedd Mr. Edward Lloyd. Er fod rhai trwy gamsynnied, yn dywedyd mai gwr o sir Gaerfyrddin ydoedd. Mae hanes neillduol am dano wedi ei argraffu y flwyddyn hon, 1777. Yno danghosir mor llafurus y bu. Darfu ei einioes cyn argraffu yr hyn oedd wedi ei gasglu oll. Bu farw yn 49 oed!(Mr. N. Owen's "British Remains," p. 131, &c)<ref>

Elisabeth a'r Ymneillduwyr.

P. A oedd dim Bedyddwyr nag Ymneillduwyr. eraill ymhlith y Cymry yr holl amser hyn?

T. Yr oedd y brenin Harri'r Seithfed o waedoliaeth y Cymry, ac felly yn ganlynol ei fab, Harri'r Wythfed, a'i ferch yntef, y frenhines Elizabeth. Trwy y rhai hyn y daeth y Cymry i gael heddwch, ac i fod dan yr un breintiau a chyfreithiau â'r Saeson. Yr oedd Elizabeth yn groes iawn i neb ymneilltuo oddiwrth Eglwys Loegr. Ni fynnai'r Cymry anfoddloni eu cares goronog, yr hon oedd wedi caniatau iddynt amryw freintiau, ond nid oedd corff y wlad yn ymorol fawr ynghylch crefydd eto, fel y nodwyd.

Achos ymneillduo.

P. Beth oedd yr achos ymneillduo oddi wrth Eglwys Loegr ar y cyntaf?

T. O achos cyfeiliornadau a drygioni Eglwys Rufain y darfu i'r Diwygwyr ymneilltuo oddi