Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthi hi, felly Eglwys Loegr ymhlith ereill. amser y brenin Edward y Chweched yr oedd y diwygiad yn myned yn y blaen, ond bu ef farw yn 1553, yna darfu'r Diwygiad, canys yr oedd ei chwaer Mary yn Bapistes greulon, fel y nodwyd. Pan ddaeth ei chwaer arall Elizabeth i'r goron, nid oedd hi ddim yn foddlon, rhwng unpeth a'r llall, i fyned â'r Diwygiad ond ychydig neu ddim ymhellach nag y gadawyd ef ar farwolaeth Edward. Eithr yr oedd llawer o wyr duwiol a dysgedig yn barnu y dylid diwygio addoliad Duw yn ôl yr Ysgrythyr; eithr wrth weled nad oedd gobaith am y fath ddiwygiad, dechreuasant neillduo, mewn lleoedd dirgel, ar eu pennau eu hunain, i addoli Duw yn ol ei Air, hyd y gallent ei ddeall. Yr oedd rhai o honynt am ddiwygio mewn Bedydd fel pethau eraill; ond eu herlid a gafodd pawb o'r sawl na chytunent âg Eglwys Loegr. Ac o blegid eu bod am burach Diwygiad, galwyd hwy "Puritaniaid." Bu llawer o erlid ar y Puritaniaid yn Lloegr yr amseroedd hyn, ond yr oedd y Cymry heb Air Duw yn eu plith oddi— eithr y Beiblau yn yr eglwysi.

John Penry.

O amgylch y flwyddyn 1586, yr oedd gwr enwog o Gymru yn weinidog, yr hwn a elwid John ab Henry, neu yn ol arfer y Saeson, John Penry, M.A. Dywedir mai gwr o sir Frycheiniog oedd ef. Mae Mr Neale, yn "Hanes y Puritaniaid," yn rhoi gair da iawn iddo, am ei dduwioldeb a'i ddawn yn y weinidogaeth; ac yn nodi ei fod yn bregethwr canmoladwy yn y ddwy brif-ysgol, sef Rhydychen a Chaergrawnt. Dywed ei fod yn fawr ei sel dros ei gyd-wladwyr