Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Cymry, ac mai efe (yn ol ei dystiolaeth ei hun) oedd y cyntaf a bregethodd yr Efengyl yn gyhoeddus i'r hen Frutaniaid. Argraffodd ddau lyfr o'u plaid, y rhai a enwir isod[1] yn 1588, yn dangos truenus gyflwr y Cymry o eisiau moddion grâs. Y flwyddyn honno yr argraffwyd y Beibl yn Gymraeg gyntaf i'r llannoedd. Yr oedd yn y deyrnas elyniaeth mawr i wr oedd mor gyhoeddus ei sel dros grefydd, yn enwedig gan nad oedd ymhob peth yn cytuno â defodau Eglwys Loegr. O'r diwedd rhoddwyd ef i farwolaeth yn 1593, yn wr ieuanc 34 oed. Bu farw yn gysurus. Nid yw hyn ond rhan o'r ganmoliaeth a rydd Mr. Neale i'r gwr da hwn. Nid yw ef yn son gair mai un o'r Bedyddwyr oedd Mr. Penry, ond yn unig ei gyfrif yn wr rhagorol o'r Puritaniaid. Buasai'n ffyddlondeb, pe dywedasai wrth ei ddarllennydd, fod y Cymro llafurus hwn yn cael ei gyfrif yn un o'r Ailfedyddwyr; yn enwedig gan fod gwr o Eglwys Loegr,[2] 20 mlynedd o'r blaen, wedi cyhoeddi trwy'r wlad mai blaenor yr Ailfedyddwyr oedd Mr. Penry yn ei amser.[3] Tybygid i Mr. Neale gymeryd ei hanes am y gwr hwn o waith Mr. Wood hefyd, canys y mae sylwedd yr hyn a nodir uchod yng ngwaith yr olaf. Dywed

  1. Hanes y Ffydd," tu dal. 234. "Athen. Oxon." Voli. Fasti Col. 39. "A view of some parts of such public wants and disorders as are in the service of Gon, within her Majesty's country of Wales.—With an humble petition to the high court of Parliament for their speedy redress. Exhortation unto the governors and people of Wales, to labor earnestly to have the preaching of the Gospel planted among them.
  2. Mr Anthony Wood
  3. Y geiriau ydynt. A most notorious Anabaptist (of which party he was in his time, the Corypheus.")