Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef fod Mr. Penry yn fwy ei ddysg na chyffredin, yn cael ei gyfrif yn bregethwr adeiladol, ac yn wr da; wedi cael ei ddygiad i fyny yn y ddwy brif ysgol, ac yn pregethu yn y ddau le gyda derbyniad. Ond dywed ei fod yn groes i Eglwys Loegr tu hwnt i bawb a fu trwy holl deyrnasiad hir y frenhines Elizabeth. Efe a ysgrifennodd lawer o lyfrau yn erbyn ysbryd erledigaethus yr oes honno; a chafodd lawer ateb gwradwyddus gan ddysgedig ac annysgedig. Am greulondeb y gyfraith yr amser hyn yn erbyn y Puritaniaid, gweler y lleoedd isod,[1] a haneswyr ereill. Mae Bennet a Rapin yno yn enwi Mr. Penry ac eraill. Yn y llyfr cyntaf o'r ddau a enwyd mae'n dangos mor dra angenrheidiol yr oedd diwygiad mewn crefydd ymhlith y Cymry; ac yn yr ail y mae'n annog ei gydwladwyr, uchel ac isel, i ymdrechu cael pregethiad yr Efengyl yn eu plith. Tebygol mai trwy'r gwr hwn y daeth y Cymry i ddeall gyntaf am fedydd y crediniol, wedi'r diwygiad o Babyddiaeth. Nid oedd eto ond ychydig ddiwygiad yn ein gwlad ni. Er ei fod yn bosibl i Mr. Penry fedyddio rhai o'r Cymry, eto yr wyf fi yn meddwl nad ymgorffolodd un eglwys reolaidd yn eu plith dros o gylch 40 mlynedd wedi ei farw ef. Mae'r haneswyr sydd yn erlid y Puritaniaid yn mawr amharchu Mr. Penry, er eu bod yn cydnabod ei fawr ddysg a'i ddawn. Mae'r haneswyr sydd dros y Puritaniaid yn rhoi clod mawr iddo, ond amryw yn celu ei fod dros fedydd y crediniol. Dywedir ei fod yn mawr dosturio wrth wlad ei enedigaeth, gan ofidio eu

  1. 35 Elizabeth c. 1. Neale's "History of the Puritans" vol. i. Bennett's 'Memorial of the Reformation," P. 75. Rapin, vol. i. P. 141. "Athen. Oxon." vol. i. Col. 258, &c.