Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn y fath dywyllwch ac anwybodaeth, of eisiau rhai i bregethu'r efengyl iddynt.

Wroth a Llanfaches.

P. Pwy a neillduodd gyntaf o'r Cymry oddi wrth Eglwys Loegr?

T. Yr hanes a gefais mai Mr. Wroth, gweinidog Llanfaches, yn sir Fynwy, ydoedd y cyntaf.

Dawns a galar.

P. A oedd ganddo ef ryw achos penodol i neillduo?

T. Yr hanes sydd fel y canlyn am dano. oedd Mr. Wroth, fel llawer ereill o'r Cymry, yn mawr hoffi cerddoriaeth. Yr oedd gwr bonheddig gerllaw a chanddo ryw achos mewn cyfraith i'w drin yn Llundain. Yr oedd Mr. Wroth ac yntef yn gyfeillgar iawn. Aeth y gwr mawr i Lundain ynghylch y gyfraith, a daeth hanes i Lanfaches ei fod wedi ennill y dydd, yr hyn a barodd orfoledd nid bychan gartref. Prynnodd y gweinidog offeryn cerdd[1] newydd i gael llawn orfoledd a gwledda, pan ddelai'r cymydog adref. Yr oedd yr amser wedi ei bennu, a pharatoad mawr yn y teulu, a'r ficar yn trefnu ei offer er mwyn iddo fod yn ben-cerddor y nos honno. Ond tra'r oeddynt yn disgwyl y gwr bonheddig adref, daeth yr hanes ei fod wedi marw. Felly trodd y gorfoledd mawr yn alarnad chwerw-dost. Wrth weled y llefain, yr wylo, a'r galar, dywedir i'r ficar syrthio ar ei liniau, a thaer weddio ar Dduw fendithio y tro rhyfedd hwnnw iddynt oll, a chysuro'r weddw drist a'r amddifaid galarus. Yr ydys yn meddwl, mai hwn oedd y tro cyntaf y

  1. Violin.