Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddiasai ef erioed o'i galon, gan mai gwr ysgafn yn ei fywyd ydoedd o'r blaen. Ond dy- wedir ei fod yn daer iawn y pryd hynny am fendith ar y rhagluniaeth, er eu dwyn i ystyried gwagedd y byd hwn, pwys tragwyddoldeb, breuolder bywyd, &c.

Y dwys fyfyriwr.

P. Beth a ddaeth or ficar wedyn?

T. Roedd o hyn allan yn wr sylweddol ; dwys-fyfyriodd ar Air Duw, pregethodd fel un ag awdurdod ganddo; yr oedd am egoneddu Duw, dyrchafu Crist, ac achub eneidiau gwerthfawr. Gwnaeth swn mawr ar hyd y wlad, a chafodd llawer eu hargyhoeddi.

P. A oedd neb yn y wlad ond Mr. Wroth yn pregethu fel hyn?

William Erbury.

T. Oedd, Mr. William Erbury, ond ni allais ddeall pa le 'roedd ef yn weinidog.

P. Pa amser oedd hyn?

T. Cefais yr hanes ynghylch Mr. Wroth mewn ysgrifen yn sir Fynwy. Ond nid oedd yno ddim o hanes y flwyddyn; eithr yr wyf fi'n barnu ei fod ef wedi dechreu pregethu yn y modd yma ar fyrr wedi 1620, neu o hynny i 1630.

Laud a'r erlid.

P. Pa fodd yr oedd y bobl yn eu dioddef yn gyffredin?

T. Yr oeddynt hwy yn argyhoeddi mor llym, ac yn dangos natur gwir grefydd, fel yr oedd ficeriaid, y gwyr mawr, a llawer ereill, yn anfoddlon iawn iddynt. Yr oedd Laud, archesgob Caergaint, yn erlidiwr creulon yn Lloegr yr amser