Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bedyddwyr digymysg oedd y rhai'n, ac y mae yn bosibl iawn iddynt gael eu casglu a'u trefnu yn Eglwys gan Mr. Erbury, er na sefydlodd ef ddim gyd â hwy, ond pregethu ar hyd y wlad lle cai alwad ac odfa.

Y profion.

P. A oes dim lle i brofi pa amser y bu hyn?

T. Mae Mr. David Rees, yr hwn oedd o Gymru, yn dywedyd y gallai ef brofi yn eglur yn 1734 i'r Bedyddwyr gyfodi yn Lloegr a Chymru o gylch yr un amser. Yr oedd ef wedi cymeryd ei hanes o lyfr Mr. Neal, yr hwn oedd wedi dywedyd mai yn 1640 yr ymgorffolodd yr Eglwys gyntaf o Fedyddwyr yn Lloegr, ac mai Mr. Henry Jessey oedd ei gweinidog.[1] Er fod Mr. Rees wedi ysgrifennu o gylch 20 mlynedd ar ol Mr. Neal, eto yr oedd ef heb gael y pethau hyn i'r gwraidd; canys y mae'n dywedyd yno, "Od oedd un camsynnied yng nghyfrif Mr Neal, y byddai da ganddo ei wybod, ac y byddai diolchgar am hynny." Eglur yw, na wyddai Mr. Neal, na Mr. Rees, yn hollol, pa bryd y corffolwyd. yr Eglwys gyntaf o'r Bedyddwyr yn Lloegr wedi'r diwygiad. Ond o gylch pedair blynedd wedyn, cafwyd gwell gwybodaeth o hyn gan Mr. Crosby; [2] sef i'r eglwys gyntaf o'r Bedyddwyr yn Lloegr gael ei chorffoli yn Llundain, y 12fed o Fedi, 1633, ac mai Mr. Spilsbury oedd ei gweinidog. Ac i'r eglwys nesaf ymgorffoli yn 1639. Yr oedd ef wedi cael yr hanes hyn o ysgrifeniadau yr eglwys, o waith law Mr. William Kiffin, yr hwn oedd weinidog y Bedydd-

  1. Answ. to Walker on Baptism," pp. 184, 187
  2. History of the English Baptists," vol. i. pp. 147, &c.