Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr. O'r blaen, yr oedd y Puritaniaid, y Bedyddwyr, ac eraill, yn yr un cymundeb. Yr oedd yr Independiaid a'r Bedyddwyr wedi ymgorffoli yn Eglwys yn 1616. Hon oedd yr eglwys drefnus cyntaf o honynt. Mae hanes dechreuad Eglwys Olchon wedi myned ar goll.

Ond yr wyf fi'n barnu oddi wrth amryw amgylchiadau, i Olchon ymgorffoli o amgylch 1633. Yn hynny mi a dybygwn fod Mr. Rees yn barnu yn gymwys i'r Bedyddwyr ymgorffoli o gylch yr un amser yng Nghymru a Lloegr, er nad oedd ef yn gwybod yr amser yn gywir.

P. A oedd Eglwys Loegr ddim yn bedyddio plant trwy drochiad y pryd hynny?

T. Tybygid eu bod, wrth hyn; mae trefn bedydd yn gorchymyn trochi y plentyn yn ddiesgeulus ac yn ddarbodus, os hysbysid i'r gweinidog y gallai y plentyn ddioddef hynny yn dda. Mae Ficar Llanddyfri yn ei agoriad ar gatecism Eglwys Loegr, yn dywedyd fel hyn :

Holiad-Beth ydyw nod gweledig
A'r arwydd digon tebyg.
Yn y Bedydd o'r tu faes.
Yn selu'r gras arbennig.

Ateb-Y dwr yn y Bedyddfan,
Lle trochir y dyn bychan
Yn enw'r Tad a'r Mab dri phryd,
A'r sanctaidd Ysbryd purlan.

Gwr o Eglwys Loegr oedd Syr John Floyer, yr hwn a 'sgrifennodd o gylch 1700. Mae fe yn nodi i'r Cymry adael trochiad yn y Bedydd yn ddiweddar, ac i rai canol oedran ddywedyd wrtho ef, eu bod yn cofio yr arfer o drochiad. Ebe fe ymhellach—

"Rhoddais yn awr y dystiolaeth a ellais gael mewn llyfrau Saesneg, i brofi yr arfer wastadol o drochiad, o'r amser y