Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dechreuwyd bedyddio y Brutaniaid a'r Saeson hyd ddyddiau'r Brenin James (yr hwn a ddechreuodd deyrnasu yn 1603. ac a ddiweddodd yn 1625) pan ddechreuodd pobl rwgnach yn erbyn pob hen ddefod; a thrwy hoffi rhywbeth newydd, tynerwch rhieni, a chymeryd arnynt fod yn fwy gweddaidd, rhoddasant heibio drochiad, yr hyn ni wnaed erioed trwy un weithred yn Eglwys Loegr, eithr y mae trefn ein heglwys ni, mewn bedydd yn gorchymyn byth i drochi yn ddiesgeulus a darbodus."

Dywed hefyd,

"Yr wyf yn clywed fod rhai o'r Cymry'n trochi hyd yn hyn.[1]

Llanfaches.

P. Pa bryd y corffolwyd yr eglwys nesaf o Ymneilltuwyr yng Nghymru?

T. Mae hanes eglur o hyn wedi ei hachub yn Hanes Bywyd Mr. Henry Jessey.[2] Yno dywedir i Mr. Jessey gael ei anfon gan y gynulleidfa ym mis Tachwedd 1639, i gynnorthwyo hên Mr. Wroth, Mr. Cradock, ac eraill, i gasglu a threfnu Eglwys yn Llanfaches yn sir Fynwy, yn Neheubarth Cymru, yr hon wedi hynny ydoedd, fel Antiochia, yn Fam-eglwys, yn y wlad genhedlig honno, yr hon a fu hynod iawn o ran ei swyddogion, ei haelodau, ei threfn a'i doniau. Gan fod Mr. Wroth yn cael ei alw yn hen wr, yr wyf yn meddwl y gallai fod o gylch, neu yn agos 20 mlynedd yn pregethu wedi gadael ffordd Eglwys Loegr, cyn corffoli yr eglwys hon.

Henry Jessey.

P. Gan mai Mr. Henry Jessey oedd yma yn blaenori, byddai dda gennyf wybod ychydig o hanes y gwr hwnnw.

  1. Treatise of Cold Bathing," 4th Edit. pp. 14, 61, 87.
  2. Mr Jessey's Life, p. 7, 10.