Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/6

Gwirwyd y dudalen hon

JOSHUA THOMAS.

GANWYD Joshua Thomas yng Nghaio, Chwef. 22, 1719; bu farw yn Llanllieni (Leominster), Awst 25 1]797

Yr oedd yn fab i Forgan Thomas o'r Ty Hen, Caio. Yn Ionawr 1746 priododd, ac ymsefydlodd yn y Gelli (Hay). Tra yno pregethai yng nghapel y Bedyddwyr ym Maes y Berllan.

Yn 1754 cawn ef yn fugail y Bedyddwyr yn Llanllieni (Leominstei). Cadwai ysgol yno hefyd. Ac yno y bu hyd ddydd ei farw.

Cyd-oesai a Gruffydd Jones Llanddowror, clywodd Daniel Rowland yn pregethu, a gwyliai'r Diwygiad Methodistaidd fel beirniad addfwyn. Ysgrifennodd hanes ei enwad yn fanwl a gofalus iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr oedd ysfa lenyddol a chrefyddol yn ei deulu. Ei frawd Timothy oedd cyfieithydd "Y Wisg Wen Ddisglair," llyfr fu a dylanwad dwys er deffro ysbryd crefydd Cymru.

Y mae "Hanes y Bedyddwyr" yn llyfr safonol yn hanes yr enwad; y mae'n bwysig iawn eto i