Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

T. Gwr enwog iawn ydoedd ef o ran dysg, dawn, a gras. Yn 1637 dewiswyd ef yn fugail ar eglwys yr Independiaid yn Llundain, oddiwrth yr ymneillduasai y Bedyddwyr bedair blynedd o'r blaen, mewn cariad a thrwy gydsyniad o'r ddau tu. A'r gynulleidfa honno ai danfonodd i gynorthwyo yn Llanfaches, fel y nodwyd. Yr oedd amryw o'i eglwys ei hun yn cael eu hargyhoeddi o fedydd y crediniol, ac yn myned ymaith o bryd i'r llall. Eto caredig iawn oedd ef tuag atynt, a than argyhoeddiadau ei hun yn lled fynych. O'r diwedd gorfu arno, mewn cydwybod, drochi'r plant yn lle eu taenellu wrth eu bedyddio. Wedi llawer o fyfyrio, gweddio, ac ymddiddan â'r duwiolion dysgedig, bedyddiwyd ef gan Mr. Hanserd Knollys, yn 1645. Ond efe arhosodd yn ei le yn weinidog fel o'r blaen, a'r gynulleidfa wedy'n yn gymysg, rhai yn Independiaid a rhai yn Fedyddwyr. Mae Dr. Calamy yn rhoi gair rhagorol i Mr. Jessey; ond nid yw efe ddim yn dywedyd mai un o'r Bedyddwyr oedd efe. Eithr y mae Mr. Palmer yn ddiweddar wedi dywedyd yn ffyddlon beth oedd Mr. Jessey. Am ryfedd glod y gwr hwn, gweler y llyfrau isod.[1] Yma gwelwn mai Bedyddwyr ac Independiaid oedd dechreu yr Ymneillduwyr yng Nghymru.

Llanfaches ac Olchon.

P. Od oedd Llanfaches yn fam-eglwys, fel y soniwyd, pa fodd yr ydych chwi yn barnu mai Olchon oedd yr hynaf?

  1. Jessey's Life." Crosby, vol. i. p 307. Dr. Calamy's Continuation, p. 45, &c. "The Nonconformist's Memorial," vol. 1. p. 108.