Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

T. Nid wyf fi ddim sicr o hynny, ond oddiar amryw amgylchiadau yr wyf yn meddwl hynny. Eithr yr oedd eglwys Olchon mor fechan nad oeddid yn dal fawr sylw arni ymhell, ac y mae Olchon yn Lloegr hefyd, gan ei bod mewn cwr o sir Henfordd, er mai Cymry oedd ac yw'r bobl. Mae gennyf fi yr hanes hyn o waith Mr. Vavasour Powel, yr hwn a wyddai am yr amser hynny, "Fod proffeswyr crefydd yn anaml iawn yng Nghymru, oddi eithr mewn rhai conglau o ddwy neu dair sir, o gylch 1641. Ac ynghylch yr amser hynny y casglwyd yr eglwys gyntaf, os nid yr unig un, trwy holl Gymru." Yn y blaen dywed ymhellach, Yn nechreu y rhyfel, (1641) nid oedd ond un neu ddwy gynulleidfa wedi eu casglu trwy holl Gymru."[1] Yma nodir fod Olchon ar gonglau neu gyrrau tair sir, y rhai a enwyd yn barod; hynny yw, yr oedd y bobl yn byw, rai yn yr un sir, a rhai yn y llall. Ond y mae Llanfaches tua chanol sir Fonwy, onid wyf fi'n camsyniad. Eto yr oedd Olchon mor fach eu nifer, ac heb un gweinidog o Rydychen ond un o'u plith eu hunain, fel na wyddai Mr. Powel yn iawn pa un oedd oreu eu galw'n eglwys neu beidio. Ni wnai ef yn y ddau le a grybwyllwyd na'i gosod yn y rhif yn hollol, na'i gadael yn ol. Er fod hyn yn dangos i ni o leiaf, fod Olchon y pryd hynny yn eglwys, eto nid yw yn brawf eglur ei bod neu nad oedd wedi ymgorffoli yn 1633. Barned y darllennydd am hyn, fel y gwelo yn dda. Sicr yw fod mwy o son am Lanfaches, gan fod yn perthyn iddi gynifer o wyr a gafodd eu dysg yn

  1. Brief Narrative of Wales's Condition," prefixt to "The Bird in the Cage. 1 Walter Cradock.