Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhydychen, a'r fath wr o Lundain yn eu cynorthwyo i ymgorffoli, yn ol trefn yr efengyl.

P. Darfu i chwi enwi Mr. Walter Cradock a Mr. Vavasour Powel; byddai da gennyf wybod beth oeddent hwy.

Walter Cradock a Vavasour Powell.

T. Dywedir eni Mr. Walter Cradock mewn lle a elwir Trefela, ym mhlwyf Llangwm, yn agos i Lanfaches: ei fod yn etifedd cyfrifol yn y wlad, ond iddo gael ei ddwyn i fyny yn Rhydychen, mae'n debyg, mewn bwriad i fod yn weinidog yn Eglwys Loegr. Pan oedd cymaint o son am Mr. Wroth trwy'r gymydogaeth aeth yntef i'w wrando, a chafodd ei ddwysbigo, a throdd allan yn weinidog enwog iawn, ac a ymdrechodd lawer i danu gwybodaeth ymhlith y Cymry. Gwr o sir Faesyfed o enedigaeth oedd Mr. Vavasour Powel, yr hwn hefyd a gafodd ei ddysg yn Rhydychen; ac oedd wedi dechreu darllen gwasanaeth yn y llan cyn iddo weled ei drueni trwy bechod, ac adnabod gras Duw mewn gwirionedd. Bu gweinidogaeth Mr. Cradock yn fuddiol iawn iddo ef.[1] Mae bywyd Mr. Powel wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn ddiweddar; gan hynny nid oes achos dy weyd llawer yma am dano. Trwy fawr ymdrech y ddau wr ragorol hyn a Mr. Erbury yr aeth pregethiad yr efengyl trwy Gymru yn gyffredin. Er fod gwyr enwog o Eglwys Loegr wedi bod mor egniol i gael Gair Duw i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, fel y dangoswyd, eto'r oedd yr ambell bregethwr duwiol oedd yn eu plith yn y llan yn gorfod cadw yn ei eglwys ei hun: ac eto nid oedd ond ychydig

  1. Mr. Vavasour Powel's Life," pp. 3. 106.