Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grefydd ymhlith y bobl. Eithr pan ddechreuodd Mr. Wroth a Mr. Erbury fod yn fwy gwresog na chyffredin yn eu gweinidogaeth, cawsant eu herlid yn fuan, a'u troi allan o'r llannoedd, fel y nodwyd; ond pregethu ar hyd y wlad yr oeddent hwy er hyn oll. Pan gafodd Mr. Cradock a Mr. Powel eu galw i'r gwaith, aethant hwy yn fwy hyf dros y wlad, gan bregethu lle gallent, yn y llannoedd, yn y tai, yn y marchnadoedd, yn y coedydd, ar y mynyddoedd, &c.

P. Dywedasoch fod y ddau wr cyntaf, un dros fedydd plant a'r llall dros fedydd y crediniol; beth oedd y ddau olaf, a fu mor enwog?

T. Yr oedd y rhain yr un modd, Mr. Cradock yn Independiad a Mr. Powel dros fedydd y crediniol. Yr oedd y ddau hyn yn pregethu ar hyd y wlad ryw amser cyn 1640.

Diffyg crefydd.

P. Mae'n debyg, wrth yr hyn a nodasoch, nad oedd fawr grefydd ymlith y Cymry eto mewn gwirionedd.

T. Nag oedd; canys dywed Mr. Powel i erfyniad gael ei anfon at y brenin o gylch 1641, yn gosod allan yn ostyngedig ac yn wirioneddol o flaen y brenin a'r parliament, gan lawer o wyr cyfrifol, mai, ar fanwl chwilio, prin yr oedd. cynnifer o bregethwyr cydwybodol arhosol yng Nghymru ag oedd o siroedd ynddi. A'r ychydig oedd, naill ai wedi cael eu distewi, neu eu mawr erlid; a bod proffeswyr crefydd hefyd yn anaml iawn, oddieithr mewn rhai conglau o ddwy neu dair sir. Ond torrodd allan y rhyfel (rhwng y Brenin a'r Parliament) fel na chafodd Cymru ddim cynnorthwy; eithr yn y gwrthwyneb gorfu