Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y pregethwyr a'r proffeswyr, er anamled oedd- ynt, adael y wlad trwy greulondeb yr erledig- aeth. Codwyd eu da a'u dodrefn gan y gwrth wynebwyr, a bu gyfyng iawn ar eu gwragedd a'u plant.[1]

Y Rhyfel Mawr, 1642-1648.

P. Pa hyd y parhaodd yr amser gofidus hynny?

T. Pahaodd y rhyfel nes oedd tua 1648. A bu yn ofidus iawn yn y wlad.

P. A oedd dim pregethu ar hyd y wlad yn amser y rhyfel hynny?

T. Oedd ar brydiau gan y gwyr a enwyd, ond yr oeddynt yn gorfod bod yn fwy dirgel, ac yn ddioddef llawer er hynny.[2]

  1. Brief Narrative.
  2. Bu Mr. Moses Williams, Ficar y Ddyfynnog, yn ymdrechiadol iawn yn ei amser dros Gymru, fel y nodir yn fwy neillduol yn y blaen. Darfu iddo gasglu, hyd y gallai, enwau yr holl lyfrau a argraffesid yn Gymraeg, neu'n perthyn i'r Gymraeg, o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1717. Ac yn y flwyddyn honno efe argraffodd Gofrestr o'r llyfrau oll, mor gywir ag y gallodd; yr amser, a'r lle yr argraffwyd. a phwy a 'sgrifenodd neu a gyfieithodd y rhan fwyaf o honynt, &c. Mae un copi o'r Gofrestr hon yn cael ei chadw yn ofalus gan y Cymro dwys a diledryw Richard Morris, Esq., yn Llundain. Mae fe wedi casglu a chwanegu amryw at y Gofrestr, ac yn son, wedi ei diwygio, am ei hargraffu o'r newydd. Mae holl Gymru yn rhwym i'r gwr bonheddig hwn, amryw ffyrdd, ys lawer o flynyddau. Felly'r wyf fi a'r darllenydd yn rhwym iddo am bob hanes ag sydd genym o'r Gofrestr. Canys trwy gyfryngdod mwyn ein cydwladwr, Dr. Llewelyn, caniataodd Mr. Morris i mi gael benthyg ei lyfr ef hyd y byddai achos.
    Yn ôl y Gofrestr ni argraffwyd ond ychydig o lyfrau yn Gymraeg dros 50 mlynedd nesaf ar ol 1600. Yn y flwyddyn honno [1600] daeth allan lyfr o'r enw hyn, Darmerth, neu arlwy i weddi a ddychymygwyd er mawr dderchafiad Duwioldeb, ac i chwanegu gwybodaeth ac awydd yr annysgedig ewyllysiwr i iawn wasanaethu'r gwir Dduw." Gelwir yr awdwr Robert Helland, gweinidog gair Duw, a Pherson Llan Ddeforawr, yn sir Gaerfyrddin. Dywedir yno i'r gwr hwn hefyd gyfieithu Agoriad byr ar weddi yr Arglwydd," o waith Mr. Perkins. Mi a debygwn mai gwr duwiol oedd Mr. Holland, pan yr oedd Cymru yn dywyll iawn. Yn 1603 argraffwyd y Salmau cân, o waith Mr. W. Midleton a Thomas Salesbury. Yn 1606 daeth allan y Llyfr Homiliau. Yn 1609 daeth allan Esboniad ar y Gredo, y Pader, y Deg Gorchymyn, &c., o gyfieithad Dr. Roger Smyth o dref Llan- elwy, ac yn 1615 daeth allan lyfr a elwid " Gorsedd y Byd," o gyfieithiad yr un gwr. Yn ôl y Gofrestr, neu'r diwygiad o honi, yn 1620 daeth allan yr Ymarfer o Dduwioldeb, ac yn 1631, lyfr a elwid Carwr y Cymry." Daeth hefyd allan Lyfr y Resolution" o gyfieithad Dr. John Davies, a'i Ramadeg a'i Airlyfr ef hefyd, yn Gymraeg a Lladin. Felly yn y 50 mlynedd hyn yr oedd y Beibl wedi ei argraffu o'r newydd i'r eglwysi yn 1620, a'r Beibl wedi dyfod allan i bobl y wlad yn 1630, ac o gylch deg neu ddeuddeg o lyfrau o bob math i'r Cymry a enwyd o'r blaen. Argraffwyd Llyfr y Ficar yn 1646, y Testament Newydd yn 1647, a'r Salmau cân yn 1648. Mae'n debyg mai hyn oedd y llyfrau Cymraeg a gafodd ein cydwladwyr gan mwyaf, yr hanner cyntaf i'r oes ddiweddaf. Mae Mr. E Lloyd yn dywedyd mai Mr. T. Williams oedd awdwr y Geirlyfr a osodwyd allan gan Dr. J. Davies. Edrych Arch. Brit. P. 225. Mae Drych y Prif Oesoedd," tu dal. 217, yn ei alw, Dr. Thomas Williams, ac yn nodi mai meddyg tra dysgedig ydoedd. Felly, tybygol, ei fod ef a Dr. John David Rees yn feddygon enwog, yn byw yr un amser. ac i'r naill ysgrifennu Gairlyfr Cymraeg a Lladin, a'r llall ei Ramadeg