Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ansicrwydd hanes yr eglwysi. P. Pa bryd y corffolwyd ychwaneg o eglwysi cynulleidfaol?

T. Nid wyf fi ddim yn sicr pa bryd y corffolwyd y rhai nesaf.

P. Yr oedd y pregethwyr, rhai yn Independiaid a rhai yn Fedyddwyr, pa fodd yr oedd yr eglwysi neu'r cynulleidfaoedd?

T. Yr oedd Llanfeches yn gymysg, ac yr oedd y gweinidogion a enwyd oll, hyd ac yr wyf fi'n deall, dros gymundeb cymysg, oddieithr Mr. Hugh Evans. Nid wyf fi'n deall fod na'i bobl ef nag Olchon erioed yn gymysg, ond yn Fedyddwyr oll.

Y Bedyddwyr a'r Ymneillduwyr.

P. Pa hyd y parhaodd eraill yn gymysg?

T. Bu rhai yn gymysg yn hir iawn. Mae chydig o gymysg yn Wrexham, y Drefnewydd, Llanbryn-mair, a'r Fenni, hyd heddyw. Ond yr oedd gwr enwog o'r Bedyddwyr gerllaw Abertawe, sef Mr. John Miles, yr hwn oedd yn gweled anghysondeb y fath gymundeb, felly neillduodd eraill ar fyrr.

Cymru wedi'r rhyfel.

P. Pa fodd y bu ar Gymru wedi 1648?

T. Mae Mr. Vavasour Powel yn dywedyd, wedi i'r wlad lonyddu rhyw faint yn ol y rhyfel, i'r ychydig lafurwyr a droasid allan o'r winllan gael eu hannog i ddychwelyd, ac i Dduw fendithio eu llafur er troedigaeth llawer o eneidiau: a rhoi lle i obeithio fod mwy o'r defaid cyfrgolledig ar fynyddau Cymru i gael eu dwyn adref i gorlan Crist. Eto yr oedd mawr wrthwynebiad, trwy'r