Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bugeiliaid segur (sef y ficeriaid a'r cyfryw), y rhai oedd am eu porthi eu hunain, hyd oni wnaed gweithred senedd (Act of Parliament) o'r enw isod,[1] er tanu'r efengyl trwy Gymru, ym mis Chwefror, 1649. Trwy'r gyfraith hon trowyd allan o'r llannoedd lawer o weinidogion Eglwys Loegr, o herwydd anwybodaeth, drwg fuchedd, &c.[2]

T Troir offeiriaid allan.

P. Oni wnaeth bwrw'r offeiriaid fel hyn o'u lleoedd lawer o gynnwrf yn y wlad?

T. Do, lawer iawn. Dywedwyd i weinidogion Eglwys Loegr gael eu troi allan oll trwy Gymru, a gadael y wlad heb weinidogion.

P. Beth oedd y gwirionedd yn hyn?

T. Mae Mr. Powel yn dywedyd fod 11 neu 12 heb eu troi allan yn y sir yr oedd ef yn byw ynddi, sef sir Drefaldwyn, ac felly ymhob sir, fwy neu lai ac na wyddai ef am neb a drowyd allan, od oedd ynddynt gymwysiadau gwîr weinidogion neu eu bod yn debyg i wneyd daioni, ac iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor dyner a hynny.[2]

Y Bedyddwyr yn llywodraethu.

P. Pwy oedd yn llywodraethu yr amser hyn, Bedyddwyr neu eraill?

T. Presbyteriaid, ac Independiaid rai. Bedyddwyr plant, gan mwyaf, oedd yn gwneyd cyfreithiau yn Llundain, ond Mr. Powel a Bedyddwyr eraill oedd fwyaf egniol ym mhlith y Cymry.

P. Pa fodd y gwyddoch chwi hynny?

T. Ysgrifennodd rhai o Eglwys Loegr lyfrau

  1. "An Act for the better Propagation of the Gospel in Wales."
  2. 2.0 2.1 Brief Narrative.