Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei erbyn, un o honynt a elwid "Llef wbwb y wlad,"[1] ac achwynwyd arno yn dra chreulon fel un yn yspeilio'r wlad, &c.

Examen Vavasoris.

P. A wnaeth Mr. Powel ddim ateb i'r pethau hyn, er mwyn crefydd?

T. Do, efe argraffodd lyfr, i amddiftyn ei hun, ac i brofi mor ddieuog ydoedd o'r holl anwiredd a godwyd arno. Enw y llyfr a welir isod,[2] daeth allan yn 1653-

Llaw haearn Harrison, Major General Cromwell yng Nghymru.

P. A oedd neb ond Eglwys Loegr yn achwyn arno?

T. Darfu i Dr. Calamy ddywedyd am yr amser hynny, o waith Mr. Baxter, i Harrison, trwy awdurdod, ar unwaith roi lawr (sef, rhoi allan o'r llannoedd) holl weinidogion y plwyfau trwy Gymru, am fod y rhan fwyaf o honynt yn anwybodus, ac o ddrwg fuchedd; a gosod fyny ychydig o bregethwyr teithiol yn eu lle. Yna ebe 'fe,—

Dyma'r cyflwr y dygodd yr Ailfedyddwyr a rhwygwyr eraill, yr holl dir iddo. A'r diben o hyn oll, oedd rhag i'r bobl gael eu temtio i feddwl fod eglwys y plwyf yn wir eglwys; a bedydd plant yn wir fedydd, neu eu bod eu hunain yn wir gris'nogion. Ond rhaid oedd eu hargyhoeddi, fod yn gofyn eu gwneyd yn gris'nogion ac yn eglwysi yn ffordd yr Ailfedyddwyr a rhwygwyr eraill.[3]

Mae Dr. Walker yn ei nodiadau ar Dr. Calamy yn dal sylw hefyd i'r Ailfedyddwyr roi lawr holl weinidogion y plwyfau trwy Gymru.[4]

  1. "Hue and Cry."
  2. "Examen & Purgamen Vavasoris."
  3. "Baxter's Life abridg'd", pp. 67. (8.
  4. "Sufferings of the Clergy, part. i. p. 152."